Fe wnaeth Theo Cabango, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd a brawd y pêl-droediwr Ben, serennu er i Rygbi Caerdydd golli o 43-17 yn erbyn Harlequins yng Nghwpan Pencampwyr Heineken.

Rhedodd e o’i hanner ei hun, ar hyd yr ystlys, cyn torri i mewn a churo’r amddiffynnwr ar y llinell.

Roedd yn berfformiad clodwiw gan dîm prifddinas Cymru er gwaetha’r canlyniad, wrth iddyn nhw bwyso ar dîm prifddinas Lloegr am gyfnodau hir yn ystod yr ornest.

Roedden nhw’n gyfartal 17-17 ar yr egwyl, ar ôl i Cabango a Cameron Winnett sgorio ceisiau, ond ar ôl cyflwyno’r eilyddion, roedd y Saeson yn rhy gryf yn y pen draw.

Roedd Caerdydd heb 42 o’u chwaraewyr o ganlyniad i hunanynysu ac anafiadau, ac fe ddaeth Winnett i mewn i’r tîm am y tro cyntaf yn safle’r mewnwr.