Roedd dylanwad Alan Knill i’w weld ar amddifyn tîm pêl-droed Middlesbrough wrth iddyn nhw guro Bournemouth o 1-0 i ymestyn eu rhediad di-guro i bedair gêm.

Cic o’r smotyn gan Andraz Sporar seliodd y fuddugoliaeth yn yr ail hanner yn y Riverside, ar ôl i Isaiah Jones gael ei lorio.

Gallai Bournemouth fod wedi codi i frig y Bencampwriaeth pe baen nhw wedi ennill, ond fe wnaeth Dominic Solanke a Ryan Christie wastraffu cyfleoedd cyn yr egwyl.

Dim ond unwaith mae Middlesbrough wedi colli ers i Alan Knill gael ei benodi’n is-reolwr a Chris Wilder yn rheolwr yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, gan ildio dim ond pum gôl – a dim un yn eu tair gêm ddiwethaf.

Maen nhw bellach yn wythfed yn y tabl, ddau bwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

Canmol Neil Taylor

Mae Chris Wilder wedi canmol y Cymro Neil Taylor, y Cymro 32 oed oedd yn chwarae yn ei gêm gyntaf ers iddo ymuno â’r clwb ar ôl gadael Aston Villa yn yr haf.

Mae e wedi bod yn gwella’i ffitrwydd wrth chwarae yn y tîm dan 23, ond fe gymerodd ei le yn y brif garfan yn sgil absenoldeb Marc Bola.

Yn safle’r cefnwr chwith, fe wnaeth e greu argraff ar unwaith.

“Roedd e yn erbyn chwaraewyr sy’n gallu symud yn y safleoedd llydan, ond wnaeth e ddim agor ei hun i fyny,” meddai Chris Wilder.

“Roedd e’n dda gyda’r bêl, ac fe wnaeth e bwyllo ein gêm ni.

“Dw i wrth fy modd dros Neil oherwydd fe fu’n dymor eithaf anodd iddo fe, ac yntau heb gael clwb.

“Ond ro’n i’n gwybod ei fod e ar gael ac fe wnaeth y clwb adael i ni ddod â fe i mewn, a dw i’n ddiolchgar am hynny.

“Mae e wedi dod i mewn ac wedi chwarae’n dda, ac mae e’n rhoi cydbwysedd a chystadleuaeth yn y safle hwnnw i ni.”

 

Alan Knill: y dyfodol gyda Chymru, Middlesbrough a’r adroddiadau am swydd Caerdydd

Alun Rhys Chivers

Wrth siarad â golwg360, mae is-reolwr Middlesbrough a hyfforddwr Cymru wedi awgrymu nad oedd gwirionedd yn y sïon am Chris Wilder a’r Adar Gleision