Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd gemau pêl-droed yn Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau, gyda phob gêm ond un wedi’u gohirio heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 18).

Yr unig gêm sy’n cael parhau ar hyn o bryd yw honno rhwng Leeds ac Arsenal am 5.30yh, ond mae’r holl gemau oedd i fod i ddechrau am 3 o’r gloch wedi’u gohirio.

Mae gemau Abertawe a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth wedi’u gohirio, ynghyd â nifer o gemau eraill ac mae disgwyl i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, gyhoeddi ddydd Llun (Rhagfyr 20) a fydd chwaraeon proffesiynol yng Nghymru yn cael parhau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Yn ôl Uwch Gynghrair Lloegr, maen nhw’n asesu pob cais i ohirio gêm yn unigol, a hynny ar sail rheolau a chanllawiau gohirio gemau o ganlyniad i Covid-19.

Ymhlith y ffactorau sy’n cael ystyriaeth, meddai, yw gallu clwb i ddewis tîm llawn, statws a difrifoldeb achosion o fewn clybiau a’r perygl o ymlediad, a gallu chwaraewyr i baratoi ac i chwarae mewn gemau.

Maen nhw hefyd yn ystyried y perygl i’r gwrthwynebwyr a phobol eraill o fewn y clybiau sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd, meddai’r datganiad.

Maen nhw’n dweud bod mesurau brys ar waith o ganlyniad i’r cynnydd sydyn mewn achosion, ac mae’r rhain yn cynnwys cynnal profion yn fwy aml, gwisgo gorchuddion wynebau dan do, cadw pellter a chyfyngu ar amser triniaethau meddygol.

Elyrch

Gohirio gêm bêl-droed Abertawe yn QPR

Nifer o achosion o Covid-19 yng ngharfan QPR