Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r awdur a’r cyn-athro o Lŷn, Penri Jones, sydd wedi marw yn 78 oed.
Mae Penri Jones yn fwyaf adnabyddus am ysgrifennu’r nofelau poblogaidd Jabas, a gafodd eu troi’n gyfres deledu, a Dan Leuad Llŷn.
Roedd yn gyd-sylfaenydd a golygydd cylchgrawn Lol, yn un o olygyddion cynnar Llanw Llŷn, a bu’n gynghorydd sir dros Lanbedrog ar Gyngor Gwynedd.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, na fyddai wedi “mynd i mewn i wleidyddiaeth heb ei anogaeth”.
Roedd Liz Saville Roberts yn adnabod Penri Jones ers 1993, pan ddechreuodd y ddau weithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli.
“Un o’r athrawon arweiniol oedd o, athro gyda chyfrifoldeb dros ddysgu’r Gymraeg Iaith Gyntaf,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.
Bu Penri Jones yn athro Ysgol Eifionydd cyn symud i Goleg Meirion Dwyfor, a chafodd “gyfle i ddylanwadu ac ysbrydoli cymaint o bobol ifanc gyda’i waith fel athro”.
“Mi fydd unrhyw un sy’n siarad gyda rhywun sy’n adnabod Penri… be gewch chi fydd gwahanol agweddau ar ei fywyd.
“Nid jyst athro oedd o wrth gwrs, roedd pobol yn ei adnabod o fel awdur Jabas a sawl nofel arall, yn ogystal.”
“Ysbrydoli”
Bu Penri Jones yn gynghorydd sir Plaid Cymru dros ward Llanbedrog am rai blynyddoedd o 1996 ymlaen, pan gafodd awdurdod lleol Gwynedd ei ffurfio.
“Mi roedd o’n weithgar mewn gwleidyddiaeth leol ers imi’i adnabod o, ac mi roedd o hefyd yn gynrychiolydd undeb efo undeb athrawon UCAC. Fel yna oedd o,” meddai Liz Saville Roberts.
“Roedd o’n ddyn sydd wedi ysbrydoli cymaint o bobol.
“Yn siarad yn bersonol amdana i fy hun, dw i’n ei gofio fo’n gofyn i fi sefyll fel cynghorydd sir, mi gymerodd hi un neu ddau etholiad cyn i fi wneud hynny ar ei gais o.
“Mi es i yn gynrychiolydd undeb UCAC ar ei ôl o.
“Felly’n bersonol, dw i ddim yn meddwl y byswn i wedi mynd i mewn i wleidyddiaeth heb ei anogaeth o, a dyna’r cof amdano fo fydda i yn ei drysori o ran sut oedd o’n cael pobol allan o’r lle roedden nhw’n gyfforddus i fod.
“Wrth gwrs, mae yna gymaint mwy o bethau eraill fysa ni’n gallu sôn amdano, ei waith gyda Chymdeithas yr Iaith, roedd o’n un o sylfaenwyr Lol, ac roedd ganddo fo ddiddordeb mewn hwylio a diwylliant lleol.
“Mae o’n ffasiwn golled.
“Welais i o ddwytha yn y gwanwyn, ac fe gaethon ni sgwrs braf iawn gyda’n gilydd bryd hynny.
“Wrth gwrs, mae gen i bob cydymdeimlad gyda Mair ei wraig, ac Esyllt ac Iolo eu plant nhw. Pob cydymdeimlad gyda nhw ar yr adeg yma.
“Rydyn ni’n colli gormod o bobol dda.”
Bu farw Penri Jones fore ddoe (Ddydd Sul, 19 Rhagfyr) wedi cyfnod o salwch byr, ac mae’n gadael ei wraig Mair, dau o blant, Esyllt ac Iolo, a’i chwaer, Catrin.