Mae Chile wedi ethol eu harweinydd ieuengaf erioed, Gabriel Boric, sy’n 35 oed.

Roedd yn arweinydd mudiad asgell chwith y myfyrwyr, ac mae e wedi addo atgyfnerthu’r wlad yn dilyn y canlyniad hanesyddol.

Treuliodd e fisoedd yn teithio o amgylch y wlad lle mae rhyw 30,000 o ddisgynyddion Cymreig yn byw, ac yn addo llywodraeth gynhwysol wedi’i harwain gan bobol ifanc er mwyn mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb y farchnad rydd a ddaeth yn gyffredin o dan arweinyddiaeth Pinochet ddegawdau yn ôl.

Enillodd e 56% o’r bleidlais yn y pen draw, gan guro’i wrthwynebydd Jose Antonio Kast o fwy na deg pwynt canran, er mai hwnnw oedd ar y blaen ar ddiwedd y rownd gyntaf.

“Rydym yn genhedlaeth a gododd mewn bywyd cyhoeddus gan fynnu bod ein hawliau’n cael eu parchu fel hawliau, ac nid yn cael eu trin fel nwyddau cwsmeriaid neu fel busnes,” meddai’r arlywydd newydd.

“Rydym yn gwybod fod yna gyfiawnder i’r rhai cyfoethog o hyd, a chyfiawnder i’r rhai tlawd, a fyddwn ni ddim bellach yn galluogi’r tlodion i barhau i dalu’r pris am anghydraddoldeb Chile.”

Mae e wedi addo brwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy atal cynlluniau ar gyfer prosiect cloddio glo.

Mae e hefyd wedi galw am derfyn ar system pensiynau preifat y wlad, oedd yn rhan mor bwysig o gyfundrefn Pinochet.

Pleidleisiodd mwy nag 1.2m o bobol yn y rownd gyntaf, gyda 56% o’r rhai oedd yn gymwys yn bwrw eu pleidlais – y ganran uchaf ers dileu’r orfodaeth i bleidleisio yn 2012.

Boric fydd yr arlywydd modern ieuengaf erioed yn y wlad pan ddaw i’r swydd ym mis Mawrth, a’r ail yn America Ladin i’w eni yn y ganrif hon ar ôl Nayib Bukele, arweinydd El Salvador.

Dim ond un pennaeth arall, Giacomo Simoncini yn San Marino, sy’n iau na fe.