Mae Boris Johnson yn wynebu rhagor o honiadau ei fod e wedi cynnal cynulliadau yn groes i gyfyngiadau Covid-19, ar ôl i luniau ddod i’r amlwg ohono fe, ei wraig a’i staff yn yfed gwin a bwyta caws yng ngardd Downing Street yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Mae’r llun wedi’i weld gan The Guardian, ac mae’n dangos prif weinidog y Deyrnas Unedig, ei wraig Carrie ac 17 aelod o staff yn yr ardd ar Fai 15 y llynedd.
Mae Downing Street yn mynnu mai cyfarfod gwaith oedd e, ac mae Adam Wagner, sy’n gyfreithiwr hawliau dynol, yn awgrymu nad oedd unrhyw gyfreithiau wedi cael eu torri ond ei bod yn bosib nad oedd y cynulliad o fewn y cyngor oedd yn cael ei roi.
Ond roedd cyfyngiadau ar y pryd o ran faint o bobol oedd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, er bod modd plygu rywfaint ar gyfer dibenion gwaith – ac mae Wagner yn dweud nad oes modd profi nad oedden nhw’n gweithio.
Ar y diwrnod dan sylw, roedd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud mewn cynhadledd i’r wasg fod hawl gan bobol fynd tu allan a chael ymarfer corff pryd bynnag roedden nhw eisiau, a bod modd cyfarfod ag un person arall o aelwyd arall yn yr awyr agored ond fod rhaid cadw pellter o ddwy fetr.
‘Dywedwch y gwir’
Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn galw ar Boris Johnson i “ddweud y gwir” am y digwyddiad.
Yn ôl Downing Street, roedd cyfarfodydd staff ar y gweill yn dilyn y gynhadledd i’r wasg gan mai cartref a gweithle’r prif weinidog yw hwn.
“Mae’n debyg fod cyfarfodydd staff yn edrych ychydig yn wahanol os oeddech chi wedi bod yn Eton,” meddai Angela Rayner wrth ymateb i’r lluniau’n dangos staff ar fyrddau ac ar lawnt Downing Street.
“Digon yw digon.
“Dywedwch y gwir wrthym am yr hyn oedd yn digwydd yn Downing Street o’r dechrau’n deg, ar unwaith @BorisJohnson.”
‘Haeddu diod’
Yn ôl adroddiadau, dywedodd Boris Johnson wrth aelod o staff eu bod nhw’n haeddu diod am “wrthsefyll” Covid-19.
Mae lle i gredu bod rhai aelodau staff wedi parhau i yfed yn hwyr y nos, ond does dim awgrym fod Boris Johnson na Matt Hancock wedi bod yn yfed alcohol.
Mae’r cynulliad hwn yn un o nifer sydd wedi cael eu hadrodd yn Whitehall yn ystod y cyfyngiadau clo.
Sue Gray, un o brif weision sifil y Deyrnas Unedig, sydd â’r cyfrifoldeb o gynnal ymchwiliad i’r honiadau, ac mae ganddi rwydd hynt i ymchwilio i ymddygiad gweinidogion.
Cafodd Simon Case, yr Ysgrifennydd Cabinet, ei hepgor o’r ymchwiliad pan ddaeth i’r amlwg ei fod e’n ymwybodol o un o’r cynulliadau, y cwis dadleuol dros Zoom, oedd wedi’i gynnal yn yr adran lle mae e’n gweithio.