Mae Cyngor Sir Powys wedi cytuno na fyddan nhw’n bwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynghylch cau tair ysgol yng ngogledd y sir.

Yn gynharach eleni, fe ddechreuodd y Cabinet ar broses statudol i gau Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn Llanfechain a Llangedwyn, yn ogystal ag Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin, Sir Drefaldwyn.

Ond mewn adroddiad ar yr ysgolion yn nalgylch Llanfyllin, roedd argymhellion newydd gan Phyl Davies, yr aelod cabinet ar gyfer addysg, yn nodi y dylid dirwyn y prosesau hynny i ben a chyflwyno cynigion amgen “heb oedi” ar gyfer yr ysgolion.

Fel rhan o strategaeth y Cyngor i ad-drefnu’r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir rhwng 2020 a 2030, mae nifer o ysgolion eisoes wedi cael eu cau.

Ym mis Tachwedd, fe bleidleisiodd y cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghastell Caereinion, ac mae cais wedi ei gyflwyno i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr ger Crughywel.

Mae cynlluniau eraill hefyd ar y gweill i gau ysgolion cynradd yn Yr Ystog a Llanfihangel Rhydieithon.

Argymhellion

Heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 21), clywodd y Cabinet awgrym gan Phyl Davies na ddylid parhau ag ymgynghoriadau i gau’r tair ysgol.

Roedd e hefyd wedi argymell peidio adeiladu dosbarthiadau newydd yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llansantffraid, a fyddai wedi gwneud lle ar gyfer disgyblion o ysgolion Llangedwyn a Llanfechain pe baen nhw wedi cau.

Roedd disgwyl i’r adroddiad gael ei drafod gan y Cabinet ddydd Mawrth, Rhagfyr 14, ond oherwydd bod angen gwneud ychwanegiadau i’r argymhellion, cafodd hynny ei ohirio tan heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 21).

“Mae’n amlwg o ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r achos cyfiawnhad busnes nad ydym yn gallu datblygu estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid,” meddai Phyl Davies.

“Oherwydd y canfyddiadau hyn, rwy’n argymell i’r Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â’r estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid ac i beidio â bwrw ymlaen a’r ymgynghoriad arfaethedig ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith.

“Argymhellais hefyd eu bod yn cyfarwyddo’r Tîm Trawsnewid Addysg i ddod â chynigion eraill ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn ddi-oed.”

Tro pedol posib ynghylch cau tair ysgol gynradd yng ngogledd Powys

Bydd pleidlais heddiw (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr) i gadw ysgolion cynradd yn Llangedwyn, Llanfechain, a Llansilin ar agor