Bydd dathliadau gŵyl Hogmanay, sy’n cael eu cynnal yn yr Alban ar Nos Calan, yn cael eu cyfyngu gan y llywodraeth.
Cafodd mesurau newydd eu cyflwyno heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 21) gan y Prif Weinidog Nicola Sturgeon, wrth iddi ymateb i fygythiad newydd yr amrywiolyn Omicron, gyda dros 60% o holl achosion Covid y wlad nawr yn ymwneud â’r amrywiolyn.
Yn sgil hynny, mae’r llywodraeth wedi penderfynu gwneud partïon stryd, sy’n arferol ar ŵyl Hogmanay, yn anghyfreithlon, a bydd y digwyddiad yn y brifddinas Caeredin, sy’n denu miloedd o bobol fel arfer, ddim yn mynd yn ei flaen.
Yn ogystal, bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig am dair wythnos, sy’n adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw.
Ymhlith newidiadau eraill mae gorfodi pellter cymdeithasol mewn lleoliadau lletygarwch a hamdden dan do, a chyfyngu ar grwpiau sy’n cyfarfod dan do i dair aelwyd.
Hefyd, bydd chwaraeon cyswllt dan do nad yw’n broffesiynol yn cael eu hatal am dair wythnos o Ragfyr 26, a bydd rhaid i fwytai sy’n gwerthu alcohol weini byrddau yn unig.
‘Nadolig yn fwy normal’
Dywed Nicola Sturgeon fod achosion o Omicron wedi cynyddu mwy na 50% yn yr wythnos ddiwethaf i hyd at 5,500 achos newydd bob dydd.
Er hynny, fe wnaeth hi sicrhau’r cyhoedd na fydd rhaid iddyn nhw newid eu cynlluniau ar gyfer Dydd Nadolig, ond mae hi’n ymbil ar bobol i geisio lleihau cysylltiad ac aros gartref gymaint â phosib o gwmpas yr ŵyl.
“Rwy’n gwybod pa mor siomedig fydd hyn i’r rhai sy’n edrych ymlaen at y digwyddiadau hyn, ac i’r trefnwyr,” meddai.
“Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig, rwyf unwaith eto yn annog pobol i aros gartref gymaint â phosibl, i arafu lledaeniad yr amrywiolyn newydd heintus iawn.
“Er efallai nad yw’n teimlo felly, rydyn ni mewn sefyllfa lawer cryfach na’r llynedd. Rydyn ni wedi cael llawer llai o gyfyngiadau ar waith am lawer o’r flwyddyn hon nag oedd yr adeg hon y llynedd.
“Bydd Dydd Nadolig yn fwy normal, a’n bwysicaf oll, mae nifer cynyddol o oedolion bellach yn cael eu gwarchod gan dri dos o frechlyn.”
‘Ergyd drom arall’
Dywed Dr Liz Cameron, prif weithredwr Siambrau Masnach yr Alban, y bydd mwy fyth o gyfyngiadau yn “ergyd drom arall i gyflogwyr ac economi’r Alban”.
“Bydd busnesau ledled yr Alban, sydd wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu gweithwyr a’u cwsmeriaid yn ddiogel, yn cael eu siomi’n arw gan y cyfyngiadau pellach hyn,” meddai.
“Bydd rhai busnesau a sectorau yn ystyried bod y diweddariad hwn yn cyfateb i dderbyn lwmp o lo yn eu hosan Nadolig, gan waethygu’r dirywiad mewn masnach y maen nhw eisoes wedi’i brofi cyn yr ŵyl.”
Dywed Andrew McRae, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach yr Alban, y bydd y mesurau yn gwneud masnachu “yn sylweddol anoddach” yn ystod “gaeaf a gwanwyn caled”.
“Bydd y cyfyngiadau pellter cymdeithasol yn golygu bod siopau a chwmnïau lletygarwch ddim yn gallu gwasanaethu cymaint o gwsmeriaid,” meddai.
“A bydd y newidiadau i ddigwyddiadau, fel gemau chwaraeon a dathliadau Hogmanay, yn cael sgil-effaith ar economïau lleol.
“Ar ôl cyfnod masnachu siomedig o gwmpas y Nadolig, bydd y newidiadau hyn yn ychwanegu pwysau ar gwmnïau lleol a phobol hunangyflogedig.
“Mae’r gweithredwyr hyn bellach yn wynebu penderfyniadau anodd ynghylch a ydyn nhw’n agor eu drysau gyda chyfyngiadau ar waith neu’n stopio masnachu nes eu bod nhw wedi’u codi.”