Dylai perchnogion dofednod gymryd camau ar unwaith i atal lledaeniad rhag ffliw adar, yn ôl Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
Daw hyn wrth i’r Deyrnas Unedig wynebu’r tymor ffliw “mwyaf arwyddocaol erioed”.
Hyd yn hyn, mae dros 50 achos wedi eu cadarnhau ledled y Deyrnas Unedig, gyda thri ohonyn nhw yng Nghymru.
Fis diwethaf, cafodd mesurau newydd eu cyflwyno i gadw adar er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu, sy’n golygu bod gofyniad cyfreithiol i geidwaid gadw adar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch.
Mae adar gwyllt yn gallu lledaenu’r clefyd ac felly, y cyngor yw peidio â chymysgu ieir, hwyaid, gwyddau ac adar eraill.
Gall y clefyd hefyd gael ei ledaenu gan bobol wrth lynu at ddillad neu esgidiau, felly mae’r Llywodraeth yn cynghori pobol i lanhau a diheintio eu hunain lle caiff adar eu cadw mewn mannau caëedig.
Diogel i fwyta cig ac wyau
Ond mae’r risg i iechyd pobol o ganlyniad i’r straen hwn o’r ffliw adar yn isel iawn, ac mae’n ddiogel bwyta cig dofednod ac wyau yn ôl yr arfer.
“Ar hyn o bryd rydym yn gweld lefelau digynsail o ffliw adar ledled y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i geidwaid adar sicrhau eu bod yn gweithredu’r lefelau uchaf o fioddiogelwch i ddiogelu eu heidiau. Mae hyn yn berthnasol p’un a oes gennych un aderyn neu haid fawr,” meddai Christianne Glossop.
“Dilyn mesurau bioddiogelwch yw’r peth gorau y gallwch ei wneud i warchod eich adar rhag y clefyd hwn. Hebddynt, bydd eich heidiau mewn perygl.
“Mae achosion o ffliw adar mewn haid yn brofiad ysgubol. Sicrhewch eich bod yn diogelu eich adar ac yn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cyfres o gynghorion i berchnogion dofednod trwy leihau symudiad pobol, cerbydau neu gyfarpar i ardaloedd lle caiff dofednod ac adar caeth eu cadw.
Yn ôl y Prif Swyddog Milfeddygol, mae hi hefyd yn bwysig glanhau a diheintio cytiau a siediau yn drylwyr ac yn barhaus.
Mae anogaeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig hefyd ar berchnogion i gofrestru eu hadar ar y Gofrestr Dofednod.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol os yw person yn berchen ar 50 o adar neu fwy.
Maen nhw’n pwysleisio na ddylid cyffwrdd na chodi unrhyw adar marw neu sâl, ac os daw rhywun o hyd i elyrch, gwyddau neu hwyaid marw neu adar gwyllt, dylen nhw gysylltu â llinell gymorth Defra.