Mae’r cyhoeddiad y bydd gemau chwaraeon yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen yn “hynod siomedig” meddai Prif Swyddog Gweithredol y Scarlets, Phil Morgan.
Fe fydd gemau’r Scarlets yn erbyn y Gweilch ar Ddydd Calan a’’r Dreigiau ar 8 Ionawr yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.
“Mae hyn yn hynod siomedig i ni gyd – chwaraewyr, staff, cefnogwyr a’r partneriaid masnach, sydd wedi dangos ffyddlondeb anhygoel tuag atom ni dros y deunaw mis diwethaf,” meddai Phil Morgan, Prif Swyddog Gweithredol y Scarlets.
“Mae’r gemau dros yr ŵyl, yn enwedig ein gêm gartref yn erbyn y Gweilch, bob tro’n achlysuron arbennig ac roedden ni’n disgwyl dwy dorf fwyaf y tymor ar gyfer y gemau yn erbyn y Dreigiau a’r Gweilch.
“Tra bydd y newyddion yn ergyd sylweddol arall i’r busnes, iechyd a diogelwch cymuned y Scarlets fydd ein prif flaenoriaeth wastad.
“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a gobeithio y gallwn ni groesawu ein cefnogwyr yn ôl i Barc yr Scarlets yn fuan, pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.”
Bydd pobol sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer y gemau yn cael eu had-dalu am y ddwy gêm.
Fe fydd gêm y Scarlets yn erbyn Rygbi Caerdydd ym Mharc yr Arfau yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig hefyd.
Gweilch a’r Dreigiau
Mae gêm y Gweilch yn erbyn y Dreigiau, a oedd i fod i gael ei chwarae yn Stadiwm Abertawe Ddydd San Steffan, wedi cael ei gohirio yn sgil achosion o Covid o fewn carfan y Gweilch.
Derbyniodd wyth o’r staff brofion positif ddydd Gwener (17 Rhagfyr), ac mae’n rhaid i holl chwaraewyr a staff y Gweilch hunanynysu dros y Nadolig nes 27 Rhagfyr.
Maen nhw “llawn fwriadu” chwarae’r gêm yn erbyn y Scarlets ar Ddydd Calan.
Bydd y Dreigiau yn chwarae Rygbi Caerdydd tu ôl i ddrysau caeedig ar Ddydd Calan yn Rodney Parade, a dywedodd David Buttress, cadeirydd y Dreigiau, “na ddylai neb fychanu’r” newyddion hwn.
“Mae’n drist dros ben i rygbi a chwaraeon proffesiynol,” meddai David Buttress.
“Efallai na fyddai’n cael diolch am fod yn onest, ond mae hyn yn newyddion erchyll i ni. Mae hwn yn newyddion creulon.”
Pêl-droed
Mae rhai clybiau pêl-droed eisoes wedi cyhoeddi bod gemau’r cyfnod Nadolig wedi’u gohirio oherwydd achosion o Covid-19 yn eu carfannau.
Mae disgwyl y bydd gêm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn erbyn Preston North End ar 9 Ionawr yn cael ei chwarae heb gefnogwyr, ac mae’r clwb yn “cydnabod” y cyfarwyddyd i chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.
Bydd y cyfyngiadau yn effeithio ar gêm gartref Casnewydd yn erbyn Salford ar 8 Ionawr, a bydden nhw’n gohebu â’r cefnogwyr yn y dyddiau nesaf.
Bydd gêm Clwb Pêl-droed Wrecsam yn derbyn Solihull Moors yn mynd yn ei blaen tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghae Ras Wrecsam ddydd Sul, a bydd cefnogwyr yn derbyn ad-daliad.
“Rydyn ni’n siomedig na fydd cefnogwyr yn gallu dod i’n gêm Ddydd San Steffan yn y Cae Ras, ond rydyn ni’n deall pam fod y penderfyniad wedi cael ei wneud.”
Bydd y cyfyngiadau yn effeithio ar gêm gartref Dinas Abertawe yn erbyn Tref Luton ar 29 Rhagfyr hefyd, a fydd nawr yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig Stadiwm Abertawe.
Sefyllfa bresennol
Daw’r mesurau newydd – ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored ar bob lefel – wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn.
Rhybuddiodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf am storm yn ymgynnull o heintiau omicron ar ôl cyfnod y Nadolig wrth i rai mesurau cadarnach gael eu cyflwyno o 27 Rhagfyr ymlaen.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion Omicron yn codi’n gyflym ym mhob rhan o Gymru.
Mae cyfradd heintiau’r coronafeirws yn codi ac erbyn hyn, ledled Cymru, mae ychydig o dan 550 o achosion am bob 100,000 o bobl.
“Mae digwyddiadau chwaraeon dros gyfnod y Nadolig yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn,” meddai’r Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, “[ond] yn anffodus, mae’r amrywiolyn Omicron newydd yn ddatblygiad sylweddol yn y pandemig a gallai achosi nifer fawr o heintiau.”