Yn un o sêr y byd rygbi yng Nghymru, mae Jamie Roberts wedi cael llwyddiant ar bob lefel o’r gamp yn ystod ei yrfa hyd yn hyn.

Ond oddi ar y cae mae un o’i gampau diweddaraf, wrth iddo raddio unwaith eto o Brifysgol Loughborough i ychwanegu at y tair gradd sydd ganddo eisoes.

Roedd wedi bod yn astudio cwrs Meistr Gweithredol mewn Gweinyddu Busnes yn y brifysgol yn Swydd Gaerlŷr dros y tair blynedd diwethaf, wrth chwarae rygbi i glybiau Caerfaddon, Stormers a’r Dreigiau.

Dywedodd y Cymro o Gaerdydd bod astudio “wastad yn her gwerth chweil ochr yn ochr â chwarae [rygbi].”

Ysgolhaig o fri

Fe raddiodd yn gyntaf gyda gradd mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn mynd ymlaen i gyflawni anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gradd Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn 2017, ychwanegodd at hynny ar ôl ennill gradd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) mewn Gwyddorau Meddygol yng Ngholeg y Breninesau, Prifysgol Caergrawnt.

Er bod ganddo sawl cap graddio bellach, mae Roberts wedi ennill lot mwy o gapiau rhyngwladol, drwy chwarae i Gymru 94 o weithiau.

Roedd yn rhan o’r timau a enillodd y Gamp Lawn yn 2008 a 2012 ac fe ymddangosodd mewn dau Gwpan y Byd yn 2011 a 2015.

Mae o hefyd wedi ymddangos tair gwaith i’r Llewod yn ystod dwy daith i Dde Affrica ac Awstralia yn 2013 a 2017.

Dydy’r gŵr 35 oed heb chwarae dros ei wlad ers 2017, ond mae’n parhau i chwarae rygbi clwb i ranbarth y Dreigiau yn ei dref enedigol, Casnewydd.