Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi sefydlu partneriaeth gyda thîm criced y Lahore Qalandars ym Mhacistan, yn y gobaith o “leihau’r rhwystrau i bobol ifanc”, yn enwedig o’r gymuned Asiaidd, sydd am fentro i’r byd criced.

Mae’r Qalandars yn chwarae yn y Pakistan Super League, ac fe ddaw’r bartneriaeth yn dilyn helynt hiliaeth Swydd Efrog a’r honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq.

Yn ôl Swydd Efrog, mae’n gyfle i “ddysgu o, ac efelychu,” Rhaglen Ddatblygu’r Qalandars, sy’n cynnig cyfleoedd a chit i 150 o chwaraewyr ifainc.

Un o’r chwaraewyr oedd wedi elwa ar y rhaglen ddatblygu oedd Haris Rauf, bowliwr cyflym Pacistan fydd yn ymuno â Swydd Efrog fel chwaraewr tramor y flwyddyn nesaf fel rhan o raglen gyfnewid.

Mae disgwyl i Swydd Efrog chwarae mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Qalandars yn Stadiwm Gaddafi yn Lahore ar Ionawr 16, gyda chwaraewyr o academi’r ddau glwb yn cael ymarfer a chwarae dramor, ac ysgoloriaethau’n cael eu cynnig i chwaraewyr ifainc yn y ddau glwb.

‘Croesawgar a chefnogol’

Mae’r Arglwydd Patel, cadeirydd newydd Swydd Efrog a gafodd ei benodi wedi’r helynt ac ar ôl i nifer o swyddogion a hyfforddwyr y clwb gamu o’r neilltu, yn gobeithio y gall y bartneriaeth arwain at wneud Swydd Efrog yn glwb “croesawgar a chefnogol i bawb”.

Mae’n dweud bod gwaith y Qalandars yn “rhagorol” ac y gall fod yn rhywbeth i glybiau ym mhob rhan o’r byd anelu ato “i ddarganfod, meithrin a chefnogi doniau ar bob lefel yn y byd criced”.

Arweiniodd honiadau Azeem Rafiq at ymadawiad Roger Hutton, y cadeirydd blaenorol.

Roedd hynny o ganlyniad i’r ffordd y gwnaeth y clwb ymateb i honiadau’r chwaraewr o’i ddau gyfnod gyda nhw rhwng 2008 a 2018.

Camodd y prif weithredwr Mark Arthur o’r neilltu, tra bod 16 aelod o’r staff hyfforddi a’r adran feddygol hefyd wedi cael eu diswyddo – gan gynnwys y prif hyfforddwr Andrew Gale a’r Cyfarwyddwr Criced Martyn Moxon.

Mae’r clwb bellach yn hysbysebu am brif hyfforddwr newydd a hyd at chwe chyfarwyddwr anweithredol, tra bod Darren Gough, cyn-fowliwr rhyngwladol y sir, wed’i benodi’n Gyfarwyddwr Criced dros dro ac wedi croesawu’r bartneriaeth.

Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn canmol “diwylliant iach” yr academïau sirol

Mae Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol wrthi’n cyflwyno rhaglenni amrywiaeth a chynhwysiant yn sgil helynt Azeem Rafiq
Sajid Javid

Hiliaeth: awdurdodau chwaraeon ‘ddim yn gwneud digon’

Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn ymateb i’r ffrae yn y byd criced
Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth

Y siroedd dosbarth cyntaf yn cytuno ar gynllun gweithredu 12 pwynt