Mae Ysgrifennydd Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Clwb Pêl-droed Abertawe wedi rhoddi swm o arian i Gymdeithas Cyn-chwaraewyr newydd y clwb i gydnabod eu cefnogaeth iddi hi a’i theulu ar hyd y blynyddoedd.

Mae Cath Dyer o ardal Tre-gŵyr wedi rhannu’r arian, a gafodd ei godi drwy raffl Nadoligaidd, rhwng Cymdeithas y Cyn-chwaraewyr ac elusen Cerebral Palsy Cymru.

“Dechreuais i ddilyn yr Elyrch ’nôl yn yr 80au cynnar pan oedden ni yn yr Adran Gyntaf,” meddai.

“Roedd dyddiau’r Vetch yn ffab, ac roedd disgos yn arfer bod yn Harpers lle’r oedden ni’n arfer cymysgu gyda’r chwaraewyr.

“Mae gyda fi atgofion ffab.

“Dw i hefyd yn dwlu ar y chwaraewyr o dymor 2007-08, y gwnes i a fy nheulu fagu perthynas wych gyda nhw.

“Dw i’n dal mewn cysylltiad â nifer ohonyn nhw.

“Mae’r Elyrch a’r clwb wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ers dros 40 mlynedd ac mae’n braf gallu cyfrannu rhywbeth i Gymdeithas y Cyn-chwaraewyr.”

Cymdeithas Cefnogwyr Anabl

Mae’r Gymdeithas Cefnogwyr Anabl wedi cadw cysylltiad â’u haelodau dros Zoom yn ystod y pandemig, gan drefnu digwyddiadau rhithiol fel boreau coffi.

Maen nhw wedi cael cwmni nifer o gyn-chwaraewyr yn ystod y digwyddiadau hyn, gan gynnwys Andrea Orlandi ac Alan Tate, is-reolwr Nottingham Forest, gan gynnal sesiynau holi ac ateb.

Y Nadolig diwethaf, anfonodd nifer o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Alan Curtis a Lee Trundle, negeseuon fideo at aelodau’r Gymdeithas.

“Mae aelodau ein DSA yn amrywio o un oed hyd at 87 oed,” meddai Cath Dyer.

“Mae’r cyn-chwaraewyr yn bwysig iawn i ni gan fod ganddyn nhw straeon gwych i’w dweud wrthon ni am eu hamser fel chwaraewyr Abertawe, ac maen nhw bob amser yn barod i rannu eu hatgofion hapus.”

Mae’r clwb yn gwahodd unrhyw gyn-chwaraewyr i gysylltu â nhw i ymaelodi.

Stadiwm Swansea.com

Yr Elyrch yn ymgynghori â chefnogwyr awtistig

Cyfarpar synhwyraidd wedi cael ei dreialu yn ystod gêm yn ddiweddar