Mae achosion o Covid-19 wedi “rhwygo” drwy garfan clwb pêl-droed Caerdydd yn ôl eu rheolwr dros dro Steve Morison.

Cafodd eu gêm yn erbyn Coventry yn y Bencampwriaeth ar Ddydd San Steffan ei chanslo yn dilyn achosion positif ymysg chwaraewyr a staff.

Maen nhw eisoes wedi gorfod canslo’r gêm y penwythnos diwethaf yn erbyn Derby County, wedi i’r ddau dîm gofnodi absenoldebau oherwydd Covid.

Mewn datganiad, dywedodd y Gynghrair Bêl-droed na fyddai’r tymor pêl-droed yn cael ei ohirio tra bod achosion ar gynnydd o fewn timau a nifer o gemau yn cael eu heffeithio o achos hynny.

Er hynny, bydd digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru i gyd yn cael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeedig o ddydd Sul (26 Rhagfyr) ymlaen, i geisio lleihau lledaeniad y firws, yn enwedig yr amrywiolyn Omicron, ymysg cefnogwyr.

‘Rhwygo yn syth drwyddo’

Dywedodd Steve Morison, rheolwr dros dro Caerdydd, bod y clwb heb gael eu heffeithio llawer gan y pandemig tan y dyddiau diwethaf.

“Mae wedi rhwygo yn syth drwyddo,” meddai wrth y BBC.

“Dydw i erioed wedi gweld dim byd fel hynny yn fy mywyd.

“Mae rhai wedi bod yn sâl ond ddim yn rhy wael, mae rhai wedi bod yn asymptomatig ac wedi profi’n bositif.

“Rydyn ni wedi bod yn hynod lwcus cyn belled. Rydyn ni wedi cael achosion fan hyn fan draw – daeth Rubin [Colwill] a Kieffer [Moore] yn ôl o ddyletswydd ryngwladol gyda’r firws, ac mae Ryan Giles wedi bod i ffwrdd unwaith ag o.

“Ond heblaw am y rheiny, dydyn ni heb gael dim byd. Ac wedyn mae hyn wedi dod fel ‘bang’ ac rydyn ni wedi cael ein chwalu – mae mwy o chwaraewyr gyda Covid na sydd heb.”

Ychwanegodd Morison nad oedd gan y clwb ddigon o chwaraewyr holliach i fodloni rheolau’r Gynghrair, sy’n gofyn am garfan o 14 chwaraewr, gan gynnwys gôl-geidwad, ar gyfer gemau.

“Galla i ddweud nawr, bydden ni ddim yn cyrraedd yn agos at hynny, a dyna pam bod gêm Coventry wedi ei galw i ffwrdd,” meddai.

“Mae’r maes ymarfer wedi cau nes dydd Llun (27 Rhagfyr), felly byddwn ni wedi cael 10 diwrnod o hunanynysu i ffwrdd o’r caeau ymarfer fel bod cyfle inni roi hyn y tu cefn a symud ymlaen.”

‘Pawb at y peth y bo’

Roedd Steve Morison hefyd yn cyfaddef bod oddeutu 25% o’i chwaraewyr heb gael eu brechu, sy’n cael ei adlewyrchu ar draws y cynghreiriau pêl-droed proffesiynol yn Lloegr.

“Mae’n un o’r pethau hynny, pawb at y peth y bo mewn bywyd,” meddai.

“Dydych chi’n methu â gorfodi neb i wneud rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau.

“Rydych chi’n gallu gofyn, addysgu, ac yna bydd pobol yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ac mae’n rhaid derbyn hynny.”

Pan fydd Caerdydd yn dychwelyd i’r cae chwarae, byddan nhw’n gwneud hynny heb floedd eu cefnogwyr.

Pe baen nhw’n osgoi clwstwr arall o achosion Covid-19, bydd eu gêm gartref nesaf yn erbyn Preston North End yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Mae’r gêm honno i’w gweld yn fyw ar S4C ddydd Sul, 9 Ionawr.