Mae prif gynghreiriau pêl-droed Cymru wedi cael eu gohirio tan o leiaf dydd Sul, 9 Ionawr, yn sgil cyfyngiadau Covid-19 newydd.
Bydd cynghreiriau’r Cymru Premier, Cymru North a South, yn ogystal â chynghreiriau Ardal a chynghreiriau’r merched, Adran, yn cael ei rhoi ar stop.
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod y penderfyniad wedi ei wneud “wedi ymgynghori â’r cynghreiriau a chlybiau oedd â gemau dros gyfnod yr ŵyl.”
The FAW National League Board has taken the decision to suspend the Cymru Leagues, Adran Leagues and Ardal Leagues, following today's (22 December) Welsh Government announcement that team sports are limited to 50 spectators due to the rise of the omicron variant of COVID-19.
— FA WALES (@FAWales) December 22, 2021
Bydd bwrdd cynghreiriau’r gymdeithas yn monitro’r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf, a byddan nhw ddim yn cynnig diweddariad tan ar ôl 9 Ionawr.
‘Er budd gorau’r gêm’
Dywedodd y Gymdeithas Bêl-droed eu bod nhw wedi cynllunio ar gyfer unrhyw ymyrraeth o achos Covid-19 yn gynharach yn y flwyddyn.
“Cyn tymor 2021/22, fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ystyried aflonyddwch yn ymwneud â Covid-19 i’w cynlluniau, gyda rhai cynghreiriau yn dechrau eu tymhorau yn gynt na’r arfer i ddadwneud yr effaith,” medden nhw mewn datganiad.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod y byddai colled sylweddol mewn incwm i glybiau yn y cynghreiriau dan sylw pe bai gemau yn cael eu cynnal heb fwy na 50 o bobol yn gwylio.
“Byddai hynny’n ychwanegu at siom eithriadol cefnogwyr a fyddai’n methu â gwylio eu clybiau pe bai gemau’n cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.
“I leihau ar yr incwm sy’n cael ei golli ac i roi’r cyfle gorau i gefnogwyr barhau i allu gwylio eu clybiau, roedd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn teimlo bod atal y cystadlaethau dros gyfnod yr ŵyl er budd gorau’r gêm.
“Bydd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn cyfathrebu â’r cymdeithasau fesul ardal fel y gallwn wneud penderfyniad gwybodus am y cynghreiriau a’r cystadlaethau sydd o dan eu gorchwyl.”