Mae Clwb Criced Morgannwg wedi canmol Alex Horton, eu wicedwr ifanc o Drecelyn, sydd wedi’i ddewis yng ngharfan dan 19 Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd yn y Caribî fis nesaf.

Mae’n un o 15 o chwaraewyr yn y garfan, wrth i Loegr herio Bangladesh (Ionawr 16), India’r Gorllewin (Ionawr 18) a’r Emiradau Arabaidd Unedig (Ionawr 20).

Enillodd Lloegr y Plât yn y gystadleuaeth ddiwethaf.

“Rydyn ni wrth ein boddau o weld Alex yn cael ei ddewis ar gyfer Cwpan y Byd dan 19,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Fe weithiodd e’n galed dros ben ar ei gêm eleni ac mae’n dechrau cael ei wobrwyo, a does dim rheswm pam na all e wthio am le yn nhîm cyntaf Morgannwg y tymor nesaf.

“Yn nwylo’r clwb nawr mae cynhyrchu cricedwyr o safon uchel fel Alex, a fydd yn herio am le yn nhîm Morgannwg, ac am anrhydeddau gyda Lloegr, gobeithio.”

Wicedwr ifanc o Gymru’n llygadu lle yng Nghwpan y Byd

Mae Alex Horton o Drecelyn yn edrych ymlaen at yr her o chwarae o dan amodau gwahanol i’r arfer yn Sri Lanca

Wicedwr ifanc disglair Morgannwg yng ngharfan Llewod Ifainc Lloegr

Bydd Alex Horton o Drecelyn yn teithio ar gyfer y gyfres undydd yn erbyn Sri Lanca

Y cricedwr ifanc “all fynd yn bell”

Alun Rhys Chivers

Wicedwr 16 oed wedi denu sylw Hampshire, cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg