Mae galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried cyfyngiadau Covid-19 sydd wedi arwain at ganslo digwyddiadau Parkrun yng Nghymru.

Daw penderfyniad Parkrun yn dilyn mesurau newydd sy’n cyfyngu ar nifer y bobl all ymgynnull.

Dywedodd pennaeth Athletau Cymru, James Williams, wrth BBC Cymru y dylid blaenoriaethu rhedeg fel gweithgaredd gan ei fod yn “darparu’r budd iechyd mwyaf”.

“O’r holl weithgareddau na ellir eu cynnal, yr un sydd fwy na thebyg yn darparu’r budd iechyd mwyaf i bawb ledled Cymru yw’r un weithgaredd y mae’n rhaid stopio yn anffodus,” meddai.

“Er tegwch i Lywodraeth Cymru, gall mwyafrif helaeth o chwaraeon cymunedol barhau.”

Dan gyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fe fydd digwyddiadau torfol yn cael eu cyfyngu – gall hyd at 50 o bobl ddod ynghyd.

Dywedodd y newyddiadurwr, Peter Gillibrand, syn gweithio i wasanaeth newyddion LBC ar ei gyfrif Twitter: “O Ŵyl San Steffan… byddaf yn gallu mynd i dafarn gyda digon o bobl eraill dan do, er eu bod wedi’u hymbellhau’n gymdeithasol ac ati.

“Ond fydda i ddim yn gallu gwneud 5km yn yr awyr agored ar fore Sadwrn gyda Parkrun.”

Parkrun

Mae Parkrun yn sefydliad sy’n trefnu rhediadau 5km bob bore Sadwrn ledled y Deyrnas Unedig, ond yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi penderfynu canslo pob digwyddiad yng Nghymru o 1 Ionawr ymlaen, ac eithrio Parkruns i bobl iau gan nad yw’r rheolau newydd yn effeithio arnynt.

“Rwy’n credu y bydd pawb sydd hyd yn oed wedi clywed am Parkrun yn gweld nad dim ond ar gyfer rhedwyr mwy difrifol, athletwyr elît ar flaen y cae, yw e” meddai James Williams.

“[Mae yn] cael pobl yn gorfforol egnïol a chael pobl i gymryd rhan mewn ‘couch to 5k’ ac mae’r twf enfawr yn Parkrun wedi bod ymhlith yr unigolion hynny sydd erioed wedi gwneud unrhyw fath o weithgaredd corfforol o’r blaen – heb sôn am redeg.”

Bydd Parkrun yn parhau â’i ddigwyddiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ble nad yw’r mesurau yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar niferoedd, ac yn yr Alban lle mae’r terfyn a r niferoedd all ymgynnull yn 500 o bobl.

“Rydym yn amlwg yn chwilio am gydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai James Williams.

“Parkrun yw’r lle perffaith i bobl fynd i ddechrau’r daith ac os nad ydyn nhw’n ei wneud ar y cyntaf o Ionawr, y tebygrwydd yw na fyddan nhw’n gwneud hynny o gwbl dros y 12 mis nesaf.”

Canslo nofio Nadoligaidd

Dwy fenyw yn sblashio yn y dwrLl
Nofio ym Mhorthcawl ddydd Nadolig 2019 (Ben Birchall, PA)

Ynghyd â Parkrun mae digwyddiadau nofio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi cael eu canslo ledled Cymru oherwydd y cyfyngiadau.

Fel arfer mae’r yn ddigwyddiadau hyn yn cymryd lle ar Fore Nadolig, Diwrnod San Steffan, a Dydd Calan.

Ond o ddydd Sul ymlaen, bydd digwyddiadau awyr agored yn cael eu cyfyngu i 50 o bobl, gyda Throchfa’r Tymor yng Nghefn Sidan ger Llanelli wedi’i ganslo ynghyd â digwyddiadau ym Mhorthcawl, Llandudno, Dinbych y Pysgod, Llanusyllt a Phorth Mawr.

Cyflwyno mesurau Covid-19 newydd yng Nghymru Ddydd San Steffan

Ailgyflwyno’r rheol chwe pherson a gwahardd digwyddiadau mawr dan do ac yn yr awyr agored ymysg y mesurau newydd

Chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen

“Bydd torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib. Rydyn ni eisiau i bawb fod yma i fwynhau eu hoff chwaraeon.”

“Hynod siomedig” fod chwaraeon am gael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething na fydd torfeydd mewn gemau am y tro i helpu i reoli lledaeniad Covid-19