Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn pryderu y gallai gemau sy’n cael eu gohirio achosi colledion o dros £100,000 fesul gêm, ac wedi galw am “eglurder am y ffordd ymlaen”.

Roedd Steve Phillips yn cyfeirio’n benodol at y gemau darbi sy’n cael eu cynnal ar Ddydd San Steffan, yn ogystal â gemau Ewropeaidd.

Mae dwy o gemau’r rhanbarthau wedi gorfod cael ei gohirio hyd yn hyn.

Y gyntaf oedd gornest y Scarlets yn erbyn Bordeaux yng Nghwpan y Pencampwyr ar 19 Rhagfyr, a gafodd ei chanslo oherwydd cyfyngiadau teithio newydd rhwng Prydain a Ffrainc.

A bydd gêm ddarbi’r Gweilch a’r Dreigiau ddim yn cael ei chwarae ar Ddydd San Steffan, ar ôl achosion o Covid-19 yng ngharfan y Gweilch, gan gynnwys achos o’r amrywiolyn Omicron – ond byddai dim torf wedi gallu bod yn bresennol beth bynnag.

Roedd y Gweilch a’r Scarlets wedi gorfod ildio’u gemau oddi cartref yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn Racing 92 a Bryste, gyda’r canlyniad yn cael ei gofnodi fel 28-0 i’w gwrthwynebwyr.

Gohirio gemau’r Gweilch a’r Scarlets oherwydd Covid-19

Y Dreigiau v Lyon yng Nghwpan Her Ewrop heno (nos Wener, 17 Rhagfyr) yn mynd yn ei blaen

‘Mwy o sicrwydd, strwythur, ac eglurder’

Yn ei neges ar ddiwedd y flwyddyn, roedd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn diolch i holl gyfranogwyr am eu hymdrechion yn ystod y flwyddyn.

Fe wnaeth Steve Phillips, a gymrodd yr awennau eleni, gydnabod bod yr undeb “yn falch iawn” o’r rhanbarthau yn ystod y cyfnod yma, yn enwedig Rygbi Caerdydd am gyflawni gemau Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Toulouse a Harlequins gyda charfan gyfyngedig.

Roedd hefyd yn derbyn bod rhaid dilyn mesurau newydd Llywodraeth Cymru i “sicrhau diogelwch,” er ei fod yn dymuno cael “mwy o sicrwydd, strwythur, ac eglurder am y ffordd ymlaen.”

“Diogelwch a goroesi yw ein nod yn y bôn ac, unwaith y byddwn ni wedi cwblhau’r broses honno, byddwn yn gallu ailadeiladu,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio am weithredu chwim nawr er mwyn ailddechrau tymor 2021/22 mewn ychydig wythnosau, ond ein pryder ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw diogelwch y genedl.”

Colledion sylweddol

Ychwanegodd Steve Phillips y byddai’r pedwar rhanbarth rygbi yn colli dros £100,000 mewn elw o bob gêm sy’n cael ei chanslo.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed tu ôl i’r llenni i leihau effeithiau negyddol y mesurau newydd a byddwn yn parhau i wneud hynny,” meddai.

“O ystyried poblogrwydd y gemau darbi a’r gemau Ewropeaidd sydd ar ddod, rydyn ni’n amcangyfrif y bydd pob gêm sy’n cael ei golli yn lleihau elw o dros £100,000.

“Bydd colledion pellach mewn refeniw i gyflenwyr, staff, gwerth i noddwyr, a phleser i gefnogwyr, yn ogystal â sgil effeithiau pellach o gefnogwyr yn mynd allan o’r arfer o wylio gemau.

“Er ein bod ni’n parchu a chydnabod safiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn y genedl, mae’n hynod siomedig i gefnogwyr sy’n methu â gwylio’r gemau darbi Nadolig.”

Fe wnaeth Phillips ddiolch i’r Llywodraeth am y Gronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr a mesurau eraill i leihau’r effaith ariannol ar y gamp.

Cyfyngiadau

Er y bydd digwyddiadau chwaraeon mwy o faint yn gorfod digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, bydd gemau rygbi cymunedol yn gallu cael torf o hyd at 50 o bobol.

Ar ben hynny, bydd eithriadau i rieni neu oedolion eraill sy’n mynychu gemau ar gyfer diogelwch unigolyn arall.

Bydd Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi diweddariad pellach ar chwaraeon tan ar ôl Ionawr 9, a bydd yr undeb yn parhau i hysbysu’r cyhoedd am unrhyw newidiadau sydd am effeithio ar y gymuned rygbi yng Nghymru.

“Hynod siomedig” fod chwaraeon am gael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething na fydd torfeydd mewn gemau am y tro i helpu i reoli lledaeniad Covid-19