Mae clwb pêl-droed o’r gogledd wedi mynegi “siom enfawr” wrth weld gemau dros yr ŵyl yn cael eu gohirio.
Dywedodd y gymdeithas y byddai atal y tymor dros dro yn “lleihau ar yr incwm sy’n cael ei golli” ac yn “rhoi’r cyfle gorau i gefnogwyr barhau i allu gwylio eu clybiau.”
‘Siom enfawr’
Mae Clwb Pêl-droed Y Felinheli yn un o’r clybiau sy’n gorfod rhoi eu styds gadw am y tro, gan golli allan ar gêm bwysig ar Ddydd San Steffan.
Yn ôl Gwil John, un o ysgrifenyddion y clwb, roedden nhw’n paratoi i groesawu ychydig gannoedd o bobol i’w gwylio bryd hynny, pan gafodd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru eu cyflwyno.
“Oedd gennyn ni gêm fawr i fod yn erbyn Nantlle Vale ar Ddydd San Steffan,” meddai wrth golwg360.
“Oedden ni’n disgwyl torf o ryw 200, 250 neu fwy hyd yn oed. Byddai hynny wedi dod ag arian da iawn i’r clwb.
“Cawson ni siom enfawr bod ni ddim am allu cael hynny, er ein bod ni’n dallt pam eu bod nhw’n gwneud o.
“Yn fuan wedyn, fe gawson ni wybod y byddai ’na ddim gemau i fod o gwbl.”
Gohirio’r tymor
Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Llywodraeth, fe benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ohirio’r tymor pêl-droed ar gyfer tair haen uchaf pyramid y dynion, yn ogystal â dwy haen uchaf pyramid y merched.
Mae Felinheli yn chwarae yng nghynghrair Ardal y gogledd-orllewin, un o gynghreiriau trydedd haen y pyramid pêl-droed yng Nghymru.
“Roedd hynny’n gwneud pethau’n haws i ni, mae’n siŵr,” meddai Gwil.
“Gan mai 50 oedd yn cael mynd i gemau, doedden ni ddim yn siŵr sut oedden ni am blismona hynny a sicrhau na dim ond y nifer hwnnw oedd yn dod i mewn.
“Roedd o’n dipyn o gur yn y pen a dweud y gwir. Ond maen nhw wedi canslo’r gemau rŵan, felly mae hynny’n rhywbeth yn llai i boeni amdano.
“Ond ar y cyfan, roedd colli’r gêm yn siom, achos yn ariannol byddai hynny’n cadw ni fynd am dipyn o amser.”
Ychwanegodd nad oedden nhw fel clwb wedi cael clywed am y cynlluniau i ohirio’r tymor cyn y cyhoeddiad, ond maen nhw’n derbyn bod rhaid i’r Gymdeithas weithredu ar unwaith mewn ymateb i’r bygythiad cynyddol mae Covid-19 wedi ei achosi dros yr wythnosau diwethaf.
Paratoi rhag y storm
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ystyried y gallai Covid-19 achosi problemau i’w hamserlenni, felly ddechreuon nhw’r tymor pêl-droed yn gynt na’r arfer.
“Fe wnaethon nhw gynllunio’r gynghrair Ardal, gan gadw mis Ionawr yn wag oherwydd y siawns byddai yna gyfnod clo arall,” meddai Gwil.
“Roedden nhw wedi bod yn reit gall yn hynny o beth, ond fyswn i’n synnu dim rŵan os na fydd ’na gemau tan Chwefror, ond fy marn personol i ydi hynny.
“Rydyn ni wedi chwarae mwy na hanner y gemau, felly os ydyn ni’n colli Ionawr, fydd hi ddim yn broblem enfawr i gwblhau’r tymor.”
‘Dim problem’ cynnal rhai gemau
Yn ôl Gwil, dydy llawer o’u gemau ddim yn denu mwy na 50 o gefnogwyr beth bynnag, felly byddai ’na “ddim problem” cynnal y gemau hynny o fewn rheolau Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n dallt bod hogiau’r timau yn agos at ei gilydd yn yr ystafelloedd newid, ond o ran y dorf sy’n dod i wylio’r gêm, dw i’n meddwl ei bod hi’n hurt peidio [cynnal rhai gemau],” meddai.
“Yndi, mae gêm Nantlle Vale yn mynd i ddenu lot mwy o gefnogwyr na ddim un gêm arall, ond fel arfer, rydyn ni’n sôn am 50 – efallai 70 neu 80 ar y mwyaf.
“Mae gennyn ni un stand fach fyddan ni’n gallu cau os fysa’n rhaid. Ond fel arall, mae ’na ddigon o le i bobol allu sefyll ddigon pell oddi wrth ei gilydd.”
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn darparu diweddariad arall tan ar ôl 9 Ionawr, ac y byddai unrhyw benderfyniad yn dilyn hynny yn unol â mesurau’r llywodraeth.