Ni fydd Prif Hyfforddwr y Scarlets yn mynychu gêm gystadleuol gyntaf y rhanbarth ers 22 Hydref, wedi iddo gael prawf covid positif.

Mi fydd yn hunan-ynysu ddydd Sul wrth i’r Scarlets deithio i Gaerdydd ar gyfer gêm ddarbi fawr sydd yn cael ei dangos ar BBC2 Wales gyda’r gic gyntaf am dri.

Dyma fydd yr ornest gyntaf i’w chwarae heb dorf yn dilyn rheolau newydd gan Lywodraeth Cymru i geisio atal lledaeniad covid, penderfyniad sydd wedi siomi’r Scarlets.

Hyfforddwr yr olwyr, Dai Flanagan, fydd yn arwain y tîm hyfforddi yn absenoldeb Dwayne Peel.

Bu Dwayne Peel yn gorfod hunan-ynysu eisoes ar ddechrau’r mis, a hynny mewn gwesty wedi i’r Scarlets ddychwelyd o Dde Affrica.

Ac mae hynny wedi ychwanegu at ei rwystredigaeth, meddai.

“Rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at gael bod yn hyfforddwr unwaith eto ar ddiwrnod gêm, ond dyna fel y mae hi, ac rydw i’n sicr nad fi fydd yr olaf, fel mae pethau yn mynd.

“Mae’r bechgyn yn chwarae yn dda ac mae yn bwysig i ni ein bod yn cael gêm.”