Mae’r cefnwr rhyngwladol Liam Williams yn dychwelyd i dîm y Scarlets ar gyfer y gêm ddarbi fawr oddi cartref yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Bydd y ddarbi Gymreig yn cael ei chynnal ar Ddydd San Steffan, gyda’r gic gyntaf am dri a’r gêm yn fyw ar BBC 2 Wales.
Nid yw Liam Williams wedi chwarae i’r Scarlets hyd yma’r tymor hwn wedi iddo orfod cael tynnu ei bendics, ond mi wnaeth y cefnwr cydnerth chwarae i Gymru yng ngemau’r Hydref.
Bydd Liam Williams yn chwarae yn safle’r cefnwr gyda Johnny McNicholl a Ryan Conbeer ar yr esgyll, wedi i Steff Evans anafu ei bigwrn wrth hyfforddi’r wythnos hon.
Bydd y capten Jonathan Davies a Scott Williams yn safle’r canolwyr.
Dan Jones fydd yn safle’r maswr gyda Gareth Davies yn fewnwr.
O ran y blaenwyr, Rob Evans, Ryan Elias a Javan Sebastian fydd y rheng flaen, gyda Sam Lousi a Tom Price yn yr ail reng.
Mae’r maswr rhyngwladol Rhys Patchell ar y fainc ac fe allai chwarae am y tro cyntaf ers Hydref 2020.
Ni fydd Dwayne Peel yn mynd i’r gêm wedi iddo ddal covid.
Cyn-Scarlet yn safle’r maswr i Gaerdydd
Bu yn gyfnod cythryblus ar y awn i Gaerdydd gyda 42 o chwaraewyr ddim ar gael ar gyfer dwy gêm yng Nghwpan Ewrop yn ddiweddar, wrth i relyw’r garfan orfod hunan-ynysu ar ôl dychwelyd o Dde Affrica.
Bu i dîm oedd yn gymysgedd o chwaraewyr rhyngwladol, chwaraewyr yr academi a rhai lled broffesiynol wynebu Toulouse gartref a’r Harlecwiniaid yn Llundain.
Fodd bynnag, mae’r garfan lawn ar gael unwaith eto dan gapteiniaeth Ellis Jenkins ar gyfer y ddarbi fawr.
Bydd James Botham yn cadw’i le yn safle’r wythwr a Will Boyde ymysg y blaenwyr.
Bydd Josh Adams ar yr asgell, gyda Lloyd Williams yn safle’r mewnwr, a cyn-chwaraewr y Scarlets, Rhys Priestland, yn safle’r maswr.