Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton ymhlith 16 chwaraewr olaf Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC yn yr Alexandra Palace.
Roedd buddugoliaeth Price, y pencampwr byd o Markham yn sir Caerffili, dros Kim Huybrechts o Wlad Belg yn llai cyfforddus o lawr na’r grasfa roddodd Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, i’r Almaenwr Gabriel Clemens.
Cafodd y ddau Gymro yr holl sylw ar y noson, gyda’r gêm arall rhwng yr Iseldirwr Vincent van der Voort a’r Sais James Wade wedi’i chanslo oherwydd fod gan van der Voort Covid-19, gyda Wade yn mynd drwodd.
Gêm danllyd i Gerwyn
Gyda Price a Huybrechts ill dau dan bwysau drwy gydol gornest agos, roedd perygl i’r ddau golli’u tymer wrth iddyn nhw ymgiprys am sylw’r dorf.
Aeth y gêm i’r cymal olaf un, gyda Price yn amlwg yn teimlo rhyddhad o fod wedi goroesi gêm arall yn y gystadleuaeth.
Ond bu’n rhaid i’r dyfarnwr Kirk Bevins gamu i mewn i dawelu’r ddau wrth iddyn nhw ffraeo ar y llwyfan sawl gwaith.
Cafodd Huybrechts ddau sgôr o 180 i fynd â’r ornest i’r diwedd, gan orffen gyda sgôr o 114 i’w gwneud hi’n 5-5, ac am y cyntaf oedd hi i ennill y gêm olaf wedyn.
Dwbwl 20 aeth â hi i Price yn y pen draw.
Jonny ar dân
Roedd Jonny Clayton ar ei orau o’r dechrau’n deg yn ei ornest yntau yn erbyn Gabriel Clemens.
Gorffennodd e’r ornest gyda chyfartaledd tri dart o 102.56, ac fe sgoriodd e saith 180.
Bydd Clayton yn herio Michael Smith yn y bedwaredd rownd, tra bydd Price yn wynebu Dirk van Duijvenbode, ei wrthwynebydd yn y ffeinal pan enillodd e Grand Prix y Byd y llynedd.
Pe bai’r ddau yn ennill, byddan nhw’n herio’i gilydd yn rownd yr wyth olaf, gan sicrhau y bydd un ohonyn nhw yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol am gyfle i gael gafael ar y tlws.