Mae Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC, tra bod Gerwyn Price o sir Caerffili drwodd i’r wyth olaf wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl.
Collodd Clayton o 4-3 yn erbyn Michael Smith ar ddiwedd gornest gyffrous yn rownd yr 16 olaf.
Roedd Smith ar ei hôl hi o ddwy set i ddim cyn torri tafliad Clayton a mynd yn ei flaen i ennill y set olaf o chwe gêm i bedair.
Roedd Clayton yn edrych yn gryf yn y set agoriadol gyda sawl tafliad o 180, ac fe enillodd e’r ail set gan orffen mewn 12, 11 a 14 dart yn y tair gêm.
Ond Smith aeth â’r drydedd set yn erbyn y tafliad, ac roedd e’n gyfartal 2-2 ar ôl codi’r tempo.
Roedd Smith ar y blaen o 3-2 wedyn, cyn i Clayton frwydro’n galed gyda thafliad o 161 i ennill un gêm, cyn i Smith ymateb gan ennill y gêm ganlynol gyda thafliad o 121.
Clayton enillodd y gêm nesaf gyda thafliad o 105, ac fe ddaliodd ei dir i fynd â’r ornest i’r pen.
Rhyngddyn nhw, taflodd Clayton a Smith bum sgôr dros 100 i ennill gemau, ond y Sais aeth â hi yn y pen draw.
Fe fyddai’r ddau Gymro wedi wynebu ei gilydd yn rownd yr wyth olaf, ond bydd Price a Smith nawr yn mynd benben am le yn y rownd gyn-derfynol.
Ail deitl byd yn olynol?
Cafodd Gerwyn Price noson dipyn gwell, wrth oresgyn y dorf a’r Iseldirwr Dirk van Duijvenbode i fynd gam yn nes at gadw’r tlws am flwyddyn arall.
Roedd y dorf wedi bod yn bloeddio a llafarganu caneuon gwrth-Gymreig o’r dechrau’n deg, a bu’n rhaid i Sky Sports dawelu’r sain ar adegau.
Ond roedd Price ei hun yn ei chanol hi, ac fe ddechreuodd e’n nerfus cyn cipio’r ornest o bedair set i un.
Methodd y Cymro â saith dart at ddwbwl er iddo fe ddal ei dafliad yn y gêm gyntaf un, ond fe wnaeth e ddarganfod ei fomentwm gyda thafliadau o 180 ac wedyn 100 i ennill gêm wrth iddo fe geisio mynd â’r ornest y tu hwnt i afael ei wrthwynebydd.
Wnaeth van Duijvenbode ddim ennill yr un gêm arall wrth i Price ailddarganfod y math o berfformiad oedd ei angen arno i gipio’r tlws y llynedd.
Taflodd e 132 gan orffen yng nghanol y bwrdd (bullseye) i ennill y bedwaredd set, gan ddechrau’r set olaf gyda thafliad o 164 i gau’r gêm gyntaf allan.
Taflodd e ddwbwl wyth i sgorio 136 i gau pen y mwdwl ar yr ornest, gan orffen gyda chyfartaledd o 96.66 gyda thri dart.