Fe fydd y Rasys Nos Galan flynyddol, sy’n cael eu cynnal yn rhithiol eleni, yn tynnu tua’u terfyn heno (nos Wener, Rhagfyr 31).

Mae 1,500 o redwyr wedi cofrestru i gwblhau’r ras 5k fesul dipyn rhwng Rhagfyr 1-31 gan nad oedd modd cynnal y ras yn ei ffurf arferol eto eleni o ganlyniad i Covid-19.

Roedd y trefnwyr wedi bod yn meddwl drwy gydol y flwyddyn am ffordd wreiddiol o gynnal y digwyddiad, gan sicrhau bod modd cadw at y cyfyngiadau sydd yn eu lle.

Ac er bod y sefyllfa wedi gwella dipyn mewn blwyddyn, roedd yn rhaid iddyn nhw ystyried y ffaith fod hyd at 10,000 yn ymgynnull yn Aberpennar bob blwyddyn i wylio’r ras, sydd fel arfer yn gwahodd rhywun enwog i fod yn rhedwr dirgel i gychwyn y digwyddiad.

Ar ôl dwy flynedd o rasys rhithiol, gyda 1,000 yn fwy o redwyr eleni na’r llynedd, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd dychwelyd i’r hen drefn yn 2022.

Y ras eleni

Mae pob rhedwr wedi derbyn pecyn cystadleuwyr mewn bagiau eco-gyfeillgar sy’n gallu cael eu hailgylchu.

Byddan nhw hefyd yn erbyn medal bren, sydd hefyd yn eco-gyfeillgar mewn ymgais i leihau allyriadau carbon.

Mae’r cystadleuwyr wedi gallu cerdded, rhedeg neu loncian 5k, gartref, mewn campfa neu unrhyw leoliad arall yn yr awyr agored, ac maen nhw wedi gallu cystadlu’n unigol neu fel aelod o deulu neu griw o redwyr yn eu swigod, gyda’r trefnwyr yn eu hannog i sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o’r cyfyngiadau diweddaraf.

Does dim categorïau oedran eto eleni, a does dim angen cwblhau’r ras mewn amser penodol i dderbyn y fedal.

Bydd angen i gystadleuwyr ddangos tystiolaeth ar y wefan www.nosgalan.co.uk erbyn Ionawr 14 eu bod nhw wedi cwblhau’r ras, a hynny ar ffurf ffotograff neu drwy ap ffitrwydd, ffôn symudol neu beiriant rhedeg, er mwyn derbyn medal a chrys-T.

Mae rhedwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau o redeg y ras rithiol er mwyn bod cofnod yn cael ei gadw o’r digwyddiad ar ei newydd wedd.

Hanes y rasys

Mae Rasys Nos Galan, a gafodd eu sefydlu gan Bernard Baldwin yn 1958, yn dathlu hanes a champ Guto Nyth Brân.

Mae’r rasys yn cael eu cynnal yn nhref Aberpennar fel arfer, ac yn cael eu cwblhau dros bellter o 5k.

Yn eu hanterth, roedd y rasys yn denu sylw’r cyfryngau Prydeinig fel rhan o ddathliadau Nos Galan, ond daethon nhw i ben yn 1973 yn sgil pryderon yr heddlu am draffig yn yr ardal gyda miloedd o bobol yn teithio yno ac yn ymgasglu ar gyfer y digwyddiad poblogaidd.

Cafodd y rasys eu cynnal eto yn 1984, gyda 14 o redwyr yn rhedeg milltir (1.6k), gyda thri rhedwr dirgel hefyd yn cymryd rhan – un o’r gorffennol, un o’r presennol ac un rhedwr addawol ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cyfan yn dechrau gyda gwasanaeth eglwysig yn Llanwynno, lle caiff Guto Nyth Brân ei gofio ger ei fedd.

Mae ffagl yn teithio yr holl ffordd i Aberpennar wedyn, lle mae’r brif ras yn dechrau gyda’r rhedwyr yn rhedeg o amgylch y dref dair gwaith ac yn dod i stop ger cofeb i Guto Nyth Brân.

Yn draddodiadol, byddai’r ras yn dod i ben am ganol nos ond mae hi wedi’i chynnal yn gynt dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod modd i deuluoedd fynd i’w gwylio.

Pwy oedd Guto Nyth Brân?

Cafodd Guto Nyth Brân ei eni yn Llwyncelyn, pentref ger y Porth.

Fe ddaeth ei ddawn am redeg i’r amlwg yn ifanc iawn, ac yntau’n helpu ei dad i hel defaid, pan redodd a llwyddo i ddal sgwarnog.

Pan glywodd trigolion lleol yr hanes, daeth chwedlau amdano’n dal pob math o anifeiliaid gwyllt yn boblogaidd iawn ac yn rhan o chwedloniaeth yr ardal.

Roedd un o’r chwedlau hynny’n sôn am ei allu i redeg o’i gartref i Bontypridd ac yn ôl – pellter o saith milltir – cyn y byddai’r tegell yn cael ei berwi.

Pan gafodd hi wybod am ei orchestion, daeth Siân o’r Siop yn hyfforddwr ac yn rheolwr arno ac aeth hi ati i drefnu ras yn erbyn Capten Seisnig yn Hirwaun dros bellter o bedair milltir.

Enillodd Guto Nyth Brân y ras a gwobr o £400, a daeth Guto a Siân yn gariadon cyn ymddeol wrth i’r gwrthwynebwyr fynd yn llai ac yn llai parod i redeg yn ei erbyn.

Ond daeth ei ymddeoliad – a’i fywyd – i ben yn 1737 mewn un ras olaf yn erbyn ‘Tywysog Bedwas’ – ras 12 milltir rhwng Casnewydd a Bedwas – gyda gwobr ariannol sy’n cyfateb i £170,000 ar gael i’r enillydd.

Mae lle i gredu iddo farw ym mreichiau Siân ar ôl cael slap ar ei gefn i’w longyfarch ar ôl y ras.

Cafodd ei gladdu yn Eglwys Gwynno Sant yng nghoedwig Llanwynno, ac mae carreg ei fedd yno ers 1866, dros ganrif ar ôl iddo farw.