Mae Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili allan o Bencampwriaeth Byd Dartiau’r PDC yn yr Alexandra Palace yn Llundain, er iddo fe orffen gêm deledu gyda naw dart am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Dyma’r trydydd tro i chwaraewr gyflawni’r gamp eleni – Willie Borland a Darius Labanauskas yw’r ddau arall.
🚨 𝗣𝗥𝗜𝗖𝗘 𝗛𝗜𝗧𝗦 𝗔 𝗡𝗜𝗡𝗘-𝗗𝗔𝗥𝗧𝗘𝗥! 🚨
ALLY PALLY HAS ABSOLUTELY ERUPTED AS GERWYN PRICE PINS A PERFECT LEG!
Sensational scenes as the defending Champion hits the third nine-darter of the 2022 World Championship! pic.twitter.com/6RPGv3ns6u
— PDC Darts (@OfficialPDC) January 1, 2022
Ond llwyddodd Smith i daro’n ôl gyda’r dorf y tu ôl iddo fe ac unwaith eto’n troi ar y Cymro, ac roedd y gêm yn gyfartal ar ddiwedd y set honno, 2-2.
Roedd gan Price ddau gyfle yn yr wythfed set i ennill yr ornest, ond fe wastraffodd e’r rheiny ac roedd yr ornest yn gyfartal, 4-4, ac am gael ei phenderfynu gan un set olaf dyngedfennol.
Parhaodd trafferthion Price wrth anelu am ddyblau, ac fe daflodd Smith 126 yn yr ail gêm wrth geisio’r fantais.
Methodd y Sais wedyn ag ymgais at ddwbwl 12 i sgorio 138 i ennill y gêm honno, a hynny ar ôl i Price fethu â llwyddo gyda tharged o 110.
A chafodd y Cymro ei gosbi wrth i Smith fynd â’r ornest, gyda Price yn gorfod ildio’i goron.
Roedd yn fuddugoliaeth haeddiannol i Smith yn y pen draw, wrth iddo fe orffen gyda chyfartaledd o fwy na 100 mewn gornest (101.94) am y trydydd tro mewn pedair gornest hyd yn hyn, tra mai 99.57 yn unig oedd cyfartaledd y Cymro.
Sgoriodd Smith 16 allan o’r 22 sgôr o 180, a phedwar o’r sgoriau o fwy na chant i ennill gemau, er mai Price gafodd y sgôr uchaf i ennill gêm gyda thafliad tri dart o 141.
Llwyddodd Price â 44.4% o’i ddyblau (16 allan o 36), ond 22 allan o 43 gafodd Smith wrth gau gemau allan.
James Wade fydd gwrthwynebydd Smith yn y rownd gyn-derfynol.