Mae Nathan Jones, y Cymro o Gwm Rhondda, yn dweud ei fod yn “falch” o gael arwain Clwb Pêl-droed Luton gan ymrwymo i’r clwb tan 2027.
Mae’r Cymro 48 oed yn ei ail gyfnod yn rheolwr y clwb, ar ôl gadael i ddod yn rheolwr Stoke yn 2019, cyn dychwelyd i Kenilworth Road y flwyddyn ganlynol.
Mae e bellach wedi rheoli’r clwb mewn 250 o gemau.
“Dw i’n teimlo’n falch iawn o gael cynnig y cytundeb newydd hwn, gyda’r hyd a phopeth mae’n ei gynnig i fi,” meddai wrth wefan y clwb.
“Dw i mor falch o gael rheoli’r clwb gwych hwn, ond hefyd o’r ffaith mai fi yw’r un maen nhw wedi ymddiried ynddo i fynd i’r cam nesaf.
“Rydyn ni wedi bod ar daith ers 2016, ac mae’r ffaith eu bod nhw’n ymddiried ynof fi gyda chamau’r datblygiad yma mewn tref a chymuned dw i’n eu caru, dw i’n teimlo mor ostyngedig.
“Dw i’n credu ein bod ni mewn lle gwych, ac rydyn ni’n gwybod lle’r ydyn ni eisiau cyrraedd.
“Rydyn ni’n gwybod popeth sydd angen digwydd ar hyd y ffordd er mwyn i hynny ddigwydd, ac rydyn ni mewn cyfnod da iawn o ran hynny.
“Byddwn i wrth fy modd yn cael ein harwain ni i’r Uwch Gynghrair, sy’n rhywbeth rydyn ni’n credu sy’n fwy na realistig.
“Er mwyn gwneud hynny, mae angen i dipyn o bethau ddigwydd, ond mae gyda ni lawer o barhad yma, strwythur sy’n dda iawn a phrosesau o ran popeth rydyn ni’n ei wneud.
“Gyda hynny a’n datblygiad parhaus, yr Uwch Gynghrair yw’r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni.
“Bydd y stadiwm newydd yn greiddiol i hynny, a byddai’n freuddwyd i fi gael arwain y clwb i mewn i Power Court.”
Noson dda i reolwyr o’r cymoedd yn y Bencampwriaeth