Cafodd dau gerdyn coch eu rhoi ar ôl chwiban ola’r gêm rhwng West Brom a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1.
Cipiodd y Saeson bwynt wrth i Callum Robinson unioni’r sgôr ar ôl i Gaerdydd fynd ar y blaen drwy James Collins ar ôl 33 munud.
Roedd y Baggies i lawr i ddeg dyn ar ôl i Alex Mowatt weld cerdyn coch wrth i’w dîm lithro i’w trydedd gêm heb fuddugoliaeth.
Ond roedd ffrwgwd rhwng Sam Johnstone, eu golwr, ac Aden Flint, chwaraewr canol cae Caerdydd ar ddiwedd y gêm, a hynny ar ôl awgrym fod Marlon Pack wedi gwthio Conor Townsend yn y cwrt cosbi.
Ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd West Brom yn haeddu cic o’r smotyn, ac fe aeth eu rheolwr Valerien Ismael ar y cae cyn i’r ddau chwaraewr gael eu hanfon i’r cwt.
Dechreuodd yr awgyrlch tanllyd chwarter awr cyn y diwedd pan daflodd Mowatt ei hun yn flêr at Will Vaulks.
Cweir i ddeg dyn Wrecsam
Yn y cyfamser, mae Wrecsam wedi cael cweir o 3-1 yn erbyn Notts County, sydd wedi codi i’r chweched safle yn y Gynghrair Genedlaethol.
Sgoriodd Kyle Wootton ddwy gôl ac roedd un i Jayden Richardson â’i ben, ar ôl i Reece Hall-Johnson roi Wrecsam ar y blaen â chwip o ergyd gynnar.
Ond cafodd Harry Lennon ei anfon o’r cae am lawio’r bêl yn y cwrt cosbi, gyda Wootton yn sgorio o’r smotyn.
Daeth ei ail oddi ar ei ben gyda chroesiad gan Kyle Cameron i roi’r ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl.
Ar ôl i ymgais Paul Mullin o’r smotyn gael ei arbed ar ôl 56 munud, rhwydodd Notts County am y trydydd tro gyda Richardson yn penio i’r rhwyd oddi ar groesiad Adam Chicksen.