Mae Gerwyn Price yn galw am ddod â Phencampwriaeth Byd Dartiau’r PDC i Gymru.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo golli yn rownd wyth ola’r gystadleuaeth yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

Fe wnaeth e’r sylw ar ei gyfrif Instagram wrth fyfyrio ar y gystadleuaeth eleni, pan oedd e’n ceisio cadw ei afael ar y tlws enillodd e’r llynedd i ddod yn brif ddetholyn y byd.

Fe wynebodd e sawl gêm heriol o du’r dorf yn Llundain, gyda sylwadau gwrth-Gymreig ystrydebol yn cael eu hanelu ato fe drwy gydol y twrnament.

Fe ddaeth y cyfan i fwcwl neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 2) pan fu’n rhaid iddo ymdopi â rhywun yn y dorf yn anelu sylwadau ato’n gyson, cyn iddo droi ac ymateb.

Mae Sky Sports wedi bod yn gostwng y sain ar eu rhaglenni ar adegau wrth i’r dorf ei wawdio, wrth iddyn nhw hefyd dargedu rhai o’r chwaraewyr Albanaidd gyda sylwadau sydd yn cael eu galw’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae hi ond yn deg os yw Pencampwriaeth y Byd yn cael ei chynnal ym mhob gwlad,” meddai.

“Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, Ewrop.

“Cymru y flwyddyn nesaf, plis.”

Gerwyn Price yn colli ar ôl gêm deledu naw dart gynta’i yrfa

Y Sais Michael Smith sy’n mynd drwodd i’r rownd gyn-derfynol