Mae’r ddadl ynghylch newid logo Undeb Rygbi Cymru wedi codi unwaith eto, wedi i ddeiseb ddod i’r amlwg ar-lein.

Yn draddodiadol, y bathodyn sy’n ymddangos ar y crysau cochion yw’r tair pluen, sy’n seiliedig ar fathodyn herodraeth y Tywysog Cymru, ac mae hynny wedi corddi’r dyfroedd dros y blynyddoedd.

Mae hanes y bathodyn, sef tair pluen estrys ar ben coron aur, yn deillio’n ôl i’r 14eg ganrif, pan oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Tywysog Edward, mab hynaf a’r etifedd cyntaf i Frenin Edward III o Loegr.

Oherwydd hynny, dywed rhai bod y logo ddim yn symbol teilwng o Gymru na Chymreictod, ond yn hytrach yn cynrychioli’r teulu brenhinol Prydeinig.

Mae rhai eraill yn honni bod gan y teitl Tywysog Cymru, sy’n cael ei ddefnyddio gan y Tywysog Charles ar hyn o bryd, ddim i’w wneud â’r wlad, a’n dwyn oddi wrth ddefnydd hanesyddol o’r teitl, yn enwedig gan Owain Glyndŵr a Llywelyn ein Llyw Olaf.

Cafodd y ddadl hon ei hamlygu yn ddiweddar ar ôl i’r Ail Bont Hafren gael ei hail-enwi yn Bont Tywysog Cymru.

Y gobaith i rai felly yw newid symbol pennaf rygbi Cymru i rywbeth sy’n cynrychioli’r wlad yn well.

‘Amser i fathodyn rygbi Cymru gynrychioli pobol Cymru yn iawn’

Bellach, mae dros 5,000 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb ar-lein, gyda nifer yn tynnu sylw ati ar gyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau diwethaf.

Pan gafodd ei lansio, dywedodd y trefnydd, Trystan Gruffydd: “Bathodyn presennol Undeb Rygbi Cymru yw bathodyn y ‘Tywysog Cymru’ bondigrybwyll.

“Mae’r bathodyn hwn yn cynrychioli mab cyntaf y brenin yn Lloegr, sef y Tywysog Siarl ar hyn o bryd, ac felly mae’n symboleiddio taeogrwydd i’r goron Seisnig.

“Does gan y bathodyn ddim cysylltiad o gwbl i dywysog brodorol olaf Cymru, Owain Glyndŵr.”

Roedd logo rygbi Cymru yn arfer cynnwys arwyddair y Tywysog hefyd, sef ‘Ich Dien’ – y geiriau Almaeneg am ‘rwy’n gwasanaethu’, ond cafodd y rhain eu cyfnewid am y llythrennau WRU yn y 1990au.

“Mae’n amser i fathodyn rygbi Cymru gynrychioli pobol Cymru yn iawn, nid dangos taeogrwydd i fab brenin o Loegr,” ychwanegodd Trystan Gruffydd.

“Mae’r ddeiseb hon yn cynnig newid y bathodyn presennol gyda bathodyn newydd Draig Cymru, sy’n cynrychioli Cymru go iawn.”

Yn ddiweddar, fe wnaeth YesCymru hefyd gynnig enghreifftiau o logos y gallai gymryd lle’r tair pluen, gan gynnwys symbolau o gennin pedr a thelyn.

‘Hen bryd’

Mewn ymateb i’r ddeiseb ar Twitter, roedd nifer yn datgan eu cefnogaeth i’r syniad.

Galwodd y cyflwynydd radio Dei Tomos ar Undeb Rygbi Cymru i gael gwared â’r plu, gan nodi ei bod “hi’n amser newid pethau.”

Ychwanegodd yr awdur Alun Cob bod hyn yn “syniad gwych ac hen bryd hefyd.”

Rhannodd y canwr Geraint Lovgreen linc i’r dudalen, gan ddweud bod “angen r’un peth efo bathodyn @Wrexham_AFC a deud y gwir!”

Mae logos clwb pêl-droed Wrecsam a chlwb rygbi Llanelli yn enghreifftiau eraill o logos chwaraeon sy’n cynnwys darluniau o’r ‘plu brenhinol.’