Mae Ed Upson, chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Casnewydd, wedi gadael y clwb gan lofnodi cytundeb gyda Stevenage tan ddiwedd y tymor.

Ymunodd Upson, 32 oed, â’r clwb ym mis Mehefin 2021 a gwnaeth e 18 ymddangosiad ym mhob cystadleuaeth i’r Alltudion y tymor hwn.

Dydy e ddim wedi chwarae ers y gêm gyfartal 1-1 yn Crawley ar Dachwedd 23.

Mae Casnewydd yn seithfed yn y tabl ar hyn o bryd, gyda’u gobeithion o gymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle yn fyw ac yn iach.

Yn y cyfamser, mae Stevenage yn brwydro yng ngwaelodion y tabl – dim ond un safle ac un pwynt uwchlaw safleoedd y gwymp.

“Diolchwn i Ed am ei ymdrechion i’r clwb a hoffem ddymuno’r gorau iddo wrth symud ymlaen,” meddai Casnewydd mewn datganiad.