Mae’n debyg fod trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn paratoi i gynnal y gystadleuaeth y tu ôl i ddrysau caëedig eleni oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol.

Ar hyn o bryd, does dim hawl gan gefnogwyr yng Nghymru i fynychu digwyddiadau chwaraeon o faint sylweddol, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o fesurau mewn ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron.

Yn ôl papur newydd The Telegraph, mae’r trefnwyr wedi cynnal trafodaethau gyda’r chwe undeb rygbi a’r llywodraethau heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 4) i weld a fydd y cyfyngiadau presennol yn debygol o fod yn eu lle pan fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd ar Chwefror 5.

Mae’n debyg nad oes bwriad i ohirio’r gemau tan y bydd hi’n fwy diogel a phan fydd torfeydd llawn yn gallu eu mynychu, gan eu bod nhw eisiau osgoi tarfu ar y calendr rygbi prysur.

Cynnal gemau mewn un wlad?

Lloegr a’r Eidal yw’r unig wledydd sydd heb gyfyngiadau ar niferoedd sy’n gallu mynychu digwyddiadau chwaraeon mwy o faint, er bod angen dangos tystiolaeth o statws brechu neu ganlyniad prawf llif unffordd negyddol i fynd i gemau.

Yn yr Alban, dim ond 500 o bobol sy’n cael mynychu digwyddiadau chwaraeon awyr agored, tra bod Ffrainc ac Iwerddon wedi cyfyngu torfeydd i 5,000.

Dydy cynnal holl rowndiau’r gystadleuaeth un ai yn Lloegr neu’r Eidal ddim wedi cael ei ddiystyru, ond mae’r trefnwyr yn cyfaddef y byddai rhoi’r cyfrifoldeb hwnnw ar un wlad yn annheg.

Colli angerdd

Mae Dan Biggar, maswr Cymru, yn dweud y byddai cynnal gemau’r Chwe Gwlad heb gefnogwyr yn “gam mawr iawn yn ôl”.

“Mae’n rhaid i bawb sy’n dod i gemau nawr gael pasbort,” meddai wrth asiantaeth newyddion y Press Association.

“Byddan nhw wedi cael eu brechu ddwywaith neu dair ac maen nhw’n ddigwyddiadau yn yr awyr agored, felly dw i ddim yn gallu gweld pam na fyddan nhw’n cael eu caniatáu i mewn. Cyn belled â’i bod hi’n saff, dyna yw’r peth pwysicaf.

“Byddai’n gam mawr iawn yn ôl pe na bai torfeydd i glybiau ac i’r Chwe Gwlad, sydd yn gymaint o sioe.”

Mae Biggar hefyd wedi cyfeirio at gemau yr oedd wedi eu chwarae heb gefnogwyr yn y gorffennol, a oedd bron yn teimlo fel “gemau sesiwn ymarfer”, meddai.

“Roedd hi’n teimlo fel nad oedd ots os oeddech chi’n ennill neu’n colli oherwydd ei bod hi fel sesiwn ymarfer,” meddai.

“Cafodd yr angerdd ei dynnu allan o’r gemau hynny. Roeddech chi’n colli unrhyw fantais o chwarae gartref.”

‘Dylai popeth fod yn cyfateb’

Mae Dan Biggar, sy’n chwarae rygbi clwb yn Lloegr, yn dweud ei fod yn “falch” o allu chwarae o flaen torfeydd i’w glwb yn Northampton.

“Rydw i’n falch fy mod i wedi arwyddo i glwb yn Lloegr,” meddai.

“Dw i’n credu bod llawer o’r bechgyn yng Nghymru yn eithaf rhwystredig gyda’r [sefyllfa].

“Rydyn ni fwy na thebyg yn mynd yn wleidyddol nawr, ond dw i’n credu y dylai popeth fod yn cyfateb.

“Dw i’n gobeithio ar gyfer digwyddiad fel y Chwe Gwlad ac ar gyfer y gêm ar draws y Deyrnas Unedig ein bod ni’n gallu dod i ganlyniad synhwyrol.

“Cyn belled â bod pawb yn ddiogel ac wedi cael dau frechlyn, yna dw i’n credu ei bod hi’n gwneud synnwyr i gael torfeydd i mewn.”