Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd modd i gemau cynghrair, ac eithrio’r Cymru Premier, gael eu cynnal eto gydag uchafswm o 50 o gefnogwyr yn bresennol.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod Bwrdd, a bydd y rheol newydd yn dod i rym ddydd Sadwrn (Ionawr 8) ar gyfer cynghreiriau Ardal y De a’r Gogledd.
Bydd y gemau’n cael eu cynnal yn unol â phrotocol y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer dychwelyd i’r cae ac unrhyw newid i reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, does dim modd i gefnogwyr fynd i gemau proffesiynol nac elit, ac mae Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn cydnabod y bydd hynny’n ergyd i dimau.
Does dim modd i dimau’r Adran Premier gael cefnogwyr o hyd, ac mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn parhau i gynnal trafodaethau gyda nhw cyn bod penderfyniad pellach.
Protocol
Fel rhan o’r protocol newydd, y tîm cartref fydd yn gyfrifol am gymryd pob cam posib i gadw trefn ar gefnogwyr – 50 yn yr awyr agored a 30 dan do – ar gyfer pob gêm.
Mae’r canllawiau’n amrywio yn ôl faint o le sydd gan bob clwb i sicrhau bod cefnogwyr yn ddiogel mewn llefydd cyfyng.
Bydd rhaid i’r ddau dîm gytuno i addasu dyddiadau gemau pe na bai modd chwarae ar y dyddiadau sydd wedi’u pennu eisoes, a fydd timau ddim yn cael eu cosbi am ofyn am gael gohirio gemau oherwydd achosion o Covid-19 sy’n effeithio ar eu gallu i ddewis tîm llawn, diffyg argaeledd ystafell newid sy’n gallu cael ei hagor yn unol â’r canllawiau.
Bydd yn rhaid i glybiau allu gweithredu’r cyfyngiadau’n ddiogel er mwyn cynnal gemau, a dylai unrhyw dîm sy’n gweld anhawster wneud cais i ohirio gêm cyn gynted ag y bo modd.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn dweud eu bod nhw’n trafod y sefyllfa’n gyson â’r Llywodraeth er mwyn sicrhau eu bod nhw’n llwyr ymwybodol o’r cyfyngiadau diweddaraf, ac maen nhw hefyd wedi ategu eu neges ei bod hi’n bwysig i bawb gael dau ddos o frechlyn Covid-19 a’r dos atgyfnerthu.