Mae’n debyg y gallai gemau Chwe Gwlad cartref Cymru gael eu cynnal dros y ffin yn Lloegr eleni.
Daw hyn wrth i Covid-19 achosi trafferthion i drefniadau’r gystadleuaeth, gyda mwyafrif y gwledydd sy’n cymryd rhan â rhyw fath o gyfyngiadau mewn grym.
Yn ôl y Daily Mail, mae Undeb Rygbi Cymru yn trafod y posibilrwydd o gynnal y gemau yn erbyn Yr Alban, Ffrainc, a’r Eidal mewn stadiwm yn Lloegr gan na fyddai modd eu chwarae gyda chefnogwyr yng Nghymru fel mae pethau’n sefyll.
Cyflwynodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfyngiadau ar dorfeydd ym mis Rhagfyr, sy’n datgan bod rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon mwy o faint gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.
Pe bai’r gemau yn Lloegr, byddai modd cael torf lawn gan nad oes cyfyngiadau ar niferoedd yno, a byddai llai o effeithiau ariannol trychinebus i Undeb Rygbi Cymru wrth wneud hynny.
Mae gêm gartref gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth eleni yn erbyn Yr Alban ar ddydd Sadwrn, 12 Chwefror.
Gemau ‘cartref’
Nid dyma fyddai’r tro cyntaf i gemau cartref Cymru gael eu cynnal yn Lloegr, ar ôl i’r crysau cochion chwarae yno rhwng 1997 a 1999 tra bod Stadiwm y Mileniwm yn cael ei hadeiladu.
Ymhlith y lleoliadau sy’n cael eu crybwyll y tro hwn yw Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain, sy’n dal bron i 63,000 o gefnogwyr.
Er i Gymru chwarae yn hen stadiwm Wembley ar ddiwedd y 90au, gan gynnwys buddugoliaeth ‘gartref’ fythgofiadwy yn erbyn Lloegr, mae’n debyg na fydd modd iddyn nhw chwarae yno eleni oherwydd bod gemau pêl-droed rhyngwladol yn digwydd yno ym mis Mawrth.
Ar hyn o bryd, yr unig fesur sydd mewn lleoliadau chwaraeon yn Lloegr yw’r pàs Covid, sy’n gofyn i unigolion fod wedi eu brechu ddwywaith neu gael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn 24 awr cyn cyrraedd.
Does dim cyfyngiadau chwaith ar deithio rhwng y ddwy wlad, felly byddai modd i gefnogwyr o Gymru groesi’r ffin heb drafferth.
Cynnal mewn un wlad?
Dydy cynnal y gystadleuaeth mewn un wlad sydd â llai o gyfyngiadau ddim wedi cael ei ddiystyru gan y trefnwyr eto.
Lloegr a’r Eidal yw’r unig wledydd sydd heb gyfyngiadau o gwbl ar niferoedd sy’n gallu mynychu digwyddiadau chwaraeon mwy o faint, er bod angen dangos tystiolaeth o statws brechu neu ganlyniad prawf llif unffordd negyddol i fynd i gemau.
Yn yr Alban, dim ond 500 o bobol sy’n cael mynychu digwyddiadau chwaraeon awyr agored, tra bod Ffrainc ac Iwerddon wedi cyfyngu torfeydd i 5,000.
Yn ôl cyfarwyddwr clwb rygbi Exeter, cynnal yr holl gemau mewn un wlad fyddai’r “senario orau nesaf” i gyrff rygbi cenedlaethol, gan y byddai’n adfer ychydig o’r incwm wrth i dorfeydd llawn wylio gemau.
Er hynny, mae’r trefnwyr wedi nodi y byddai gwneud hynny yn annheg ar y wlad sy’n gorfod cynnal a threfnu’r gystadleuaeth ar fyr rybudd.
‘Dylai popeth fod yn cyfateb’
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd maswr Cymru, Dan Biggar, y byddai cynnal gemau’r Chwe Gwlad heb gefnogwyr yn “gam mawr iawn yn ôl”.
“Dw i’n credu bod llawer o’r bechgyn yng Nghymru yn eithaf rhwystredig gyda’r [sefyllfa],” meddai.
“Rydyn ni fwy na thebyg yn mynd yn wleidyddol nawr, ond dw i’n credu y dylai popeth fod yn cyfateb.
“Dw i’n gobeithio ar gyfer digwyddiad fel y Chwe Gwlad ac ar gyfer y gêm ar draws y Deyrnas Unedig ein bod ni’n gallu dod i ganlyniad synhwyrol.
“Cyn belled â bod pawb yn ddiogel ac wedi cael dau frechlyn, yna dw i’n credu ei bod hi’n gwneud synnwyr i gael torfeydd i mewn.”