Mae Aaron Ramsey wedi gwrthod cynnig i ymuno â Burnley, yn ôl adroddiadau Sky Sports.

Mae’r clwb yn 18fed yn Uwchgynghrair Lloegr ar hyn o bryd ac yn safleoedd y gwymp.

Dim ond pum ymddangosiad y mae Ramsey wedi’u gwneud i Juventus y tymor hwn, ac mae’r Cymro wedi dioddef sawl anaf tra’n chwarae yn yr Eidal.

Mae’n debyg fod Juventus wedi ceisio ei werthu yn ystod yr haf, ond fod ei gyn-glwb, Arsenal, wedi gwrthod cynigion i’w gymryd yn ôl.

“Chwaraewr sy’n gadael”

Erbyn hyn mae Juventus yn benderfynol o werthu Ramsey, sy’n costio £7 miliwn y flwyddyn i’r clwb mewn cyflog.

Cadarnhawyd hynny heddiw wrth i reolwr Juventus, Massimiliano Allegri, ddweud wrth gynhadledd i’r wasg: “Fe ddychwelodd Aaron Ramsey heddiw ar ôl ei ganiatâd i weithio yn Lloegr, ond mae’n chwaraewr sy’n gadael.”

Ac mae Sky Italy yn darogan mai dychwelyd i Loegr fydd y Cymro.

“Mae’n debygol y bydd Ramsey yn dychwelyd i Uwchgynghrair Lloegr,” meddai Gianluca Di Marzio, gohebydd Sky Italy.

“Fe dderbyniwyd cynnig swyddogol gan Burnley, ond fe wnaeth ei wrthod.

“Dyw e ddim eisiau chwarae i Burnley, mae o eisiau chwarae i dîm sydd â mwy o uchelgais yn yr Uwchgynghrair.”

Newcastle “wedi holi am Ramsey”

Tîm arall sy’n awyddus i ddenu’r chwaraewr canol cae yn ôl i Uwchgynghrair Lloegr yn ôl Sky Sports ydi Newcastle.

Mae’r clwb – sy’n olaf-ond-un yn yr Uwchgynghrair – yn awyddus i ychwanegu mwy o safon i’w carfan ar ôl cael ei brynu gan grŵp o Sawdi Arabia.

Mae’n debyg y byddai’r arian newydd sydd gan y clwb yn golygu y gallan nhw fforddio Ramsey yn ogystal â’i gyflog sylweddol.

Ddoe (dydd Mawrth, 4 Ionawr) fe wnaeth y clwb gytuno ar ffi o £12m gydag Atletico Madrid i arwyddo amddiffynnwr Lloegr Kieran Trippier wrth iddyn nhw hefyd geisio osgoi’r gwymp.

“Fe wnaeth Newcastle holi am Ramsey cyn y Nadolig,” meddai Gianluca Di Marzio.

“Felly cawn weld y mis Ionawr hwn os fydd yna dimau yn yr Uwchgynghrair sydd eisiau arwyddo Ramsey.

“Byddai’n hoffi dychwelyd i’r gynghrair gan ei fod mewn sefyllfa anodd yn Juventus.”