Mae Abertawe wedi galw Kyle Joseph yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg gyda Cheltenham Town.

Ymunodd Joseph, 20, â’r Elyrch o Wigan yr haf diwethaf – gan chwarae dwywaith i’r clwb – cyn mynd ar fenthyg gyda’r clwb yng Nghynghrair Un.

Mae’r ymosodwr wedi sgorio pedair gôl mewn 22 ymddangosiad ym mhob cystadleuaeth i Cheltenham Town.

Ni all Joseph chwarae i Abertawe yng Nghwpan yr FA yn erbyn Southampton ddydd Sadwrn am ei fod wedi chwarae i Cheltenham Town yn y gystadleuaeth.

O ganlyniad, y gêm gyntaf y bydd ar gael ar ei gyfer fydd gêm Pencampwriaeth yr Elyrch yn Huddersfield Town ddydd Sadwrn, 15 Ionawr.

Mae gan reolwr yr Elyrch Russell Martin obeithion mawr i’r ymosodwr.

Ym mis Awst 2021, dywedodd: “Mae ganddo un o’r agweddau gorau i mi ei weld erioed.

“Mae’r ffordd mae’n gweithio, y pethau ychwanegol mae’n ei wneud bob dydd – mor broffesiynol am ei oedran, yn feddyliol mae’n anhygoel am ei oedran.

“Mae e mor aeddfed.

“Bydd ganddo ddyfodol mawr yn y gêm.”