Tarodd Usman Khawaja, cyn-fatiwr tîm criced Morgannwg, ganred i helpu Awstralia i roi pwysau ar Loegr ar ail ddiwrnod pedwerydd prawf Cyfres y Lludw yn Sydney.

Mae’r tîm cartref eisoes wedi ennill y gyfres ac wedi cadw’r Lludw, ond fe ddychwelodd y batiwr llaw chwith i’r tîm yn absenoldeb Travis Head oherwydd Covid-19, gan sicrhau bod gan Awstralia obaith o fynd ar y blaen o 4-0 yn y gyfres gydag un prawf yn weddill.

Dyma’r tro cyntaf i Khawaja chwarae dros ei wlad ers y prawf enwog yn Headingley ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac roedd e wedi cyrraedd ei ganred erbyn amser te wrth ddychwelyd.

Cafodd Khawaja ei ollwng ar 28 cyn i’w dîm fynd yn eu blaenau i gyrraedd 321 am chwech, ac roedd e allan yn y pen draw am 137.

Mae gan Loegr bryderon o’r newydd am ffitrwydd Ben Stokes hefyd, wrth i’r chwaraewr amryddawn orfod gadael y cae ag anaf i’w ochr a’r pryder ar y pryd oedd na fyddai’n holliach i chwarae eto ar y daith.

Dim ond 46.5 o belawdau oedd yn bosib ar y diwrnod cyntaf, ac fe ddechreuodd yr ail ddiwrnod hanner awr yn gynt er mwyn ceisio cael peth amser yn ôl, ond bu’n rhaid i’r chwaraewyr adael y cae dair gwaith yn ystod y bore.

Ychwanegodd Khawaja a Steve Smith 83 at y cyfanswm, serch hynny, wrth i Loegr barhau i frwydro am wiced fawr i dorri’r bartneriaeth.

Wrth i’r bartneriaeth fynd y tu hwnt i 50, cyrhaeddodd Smith ei hanner canred cyn i’r capten Joe Root a’r wicedwr Jos Buttler wneud llanast o’r ymgais i ddal Khawaja, gyda’r bêl yn tasgu o’u dwylo.

Daeth y bartneriaeth i ben pan gafodd Smith ei ddal gan Buttler oddi ar fowlio Stuart Broad am 67.

Collodd Awstralia wicedi Cameron Green, Alex Carey a’r capten Pat Cummins gyda Khawaja yn dal wrth y llain, ac fe symudodd y batiwr i’r 90au wrth barhau i gosbi bowlwyr Lloegr.

Ond fe gyrhaeddodd ei ganred, a chael ei fowlio yn y pen draw am 137 gan Broad, a orffennodd gyda phum wiced am 101 cyn i Awstralia gau’r batiad ar 416 am wyth.

Mae Lloegr yn 13 heb golli wiced ar ôl i Zak Crawley oroesi daliad yn y slip gan David Warner, gan fod troed Mitchell Starc dros y llinell wrth fowlio pelen anghyfreithlon.