Bydd Liam Williams, asgellwr a chefnwr rygbi Cymru a’r Llewod, yn symud i glwb Caerdydd ar gyfer tymor 2022-23.

Fe yw’r trydydd chwaraewr i gael ei gyhoeddi gan y rhanbarth ar gyfer y tymor nesaf, gyda’r sêr rhyngwladol Taulupe Faletau a Thomas Young hefyd yn mynd am y brifddinas.

Bydd y chwaraewr 30 oed yn symud o’r Scarlets, lle mae e wedi bod yn chwarae ers 2020 ar ôl ymuno o’r Saraseniaid.

Dyma oedd ail gyfnod Williams gyda’r clwb yn y gorllewin, wedi iddo chwarae yno rhwng 2011 a 2017.

Does dim cadarnhad eto beth fydd hyd ei gytundeb gyda Chaerdydd.

Mae’r olwr wedi dioddef o anafiadau sydd wedi ei rwystro rhag ymddangos i’r Scarlets ac i’w wlad am gyfnodau hir yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd llai o gystadleuaeth iddo yng ngharfan ei ranbarth newydd, gan fod Hallam Amos yn ymddeol o’r gamp ar ddiwedd y tymor hwn.

Pennod newydd

Yn ystod ei yrfa lwyddiannus, mae Williams wedi chwarae 73 o weithiau dros Gymru a phum gwaith dros y Llewod, gan ennill medalau ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi Pencampwyr Ewrop.

Ac mae’n edrych ymlaen at bennod newydd gyda’r tîm yn y glas a’r du.

“Rydw i wedi cyffroi o gael ymuno â Chaerdydd yn yr haf,” meddai Liam Williams.

“Ond rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar iawn i’r Scarlets, sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i fi yn y gamp, ac rwy’n ymroi’n llwyr iddyn nhw am weddill y tymor.

“Mae gen i lawer o atgofion melys yno ond, yn y cyfnod hwn o fy ngyrfa, rwy’n teimlo bod angen newid arna i i sicrhau fy mod yn gallu aros ar frig y gêm.

“Yn ddiweddar, mae Caerdydd wedi fy nenu i, ac mae’n teimlo fel pe baen nhw’n adeiladu rhywbeth arbennig.

“Mae gen i lawer o ffrindiau yno o garfan Cymru ac maen nhw’n canmol yr awyrgylch, ac mae Dai Young wedi fy argyhoeddi mai Caerdydd yw’r lle gorau i fi barhau â fy ngyrfa.

“Mae ganddyn nhw andros o dalent yn y garfan, yn ogystal â chwaraewyr ifanc cyffrous, a bydd y gystadleuaeth am lefydd yn ffyrnig, ond rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan ac wedi cyffroi i weld beth allwn ni ei gyflawni.”