Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Shane Williams a chyn-gapten rygbi Cymru, Ieuan Evans, yn mynd ar wibdaith i ymweld â chwe phrifddinas Pencampwriaeth y Chwe Gwlad – Caerdydd, Rhufain, Paris, Caeredin, Llundain a Dulyn.

Bydd y daith i’w gweld mewn cyfres newydd, 6 Gwlad Shane ac Ieuan, sy’n cychwyn nos Fercher nesaf (Ionawr 12) am 9 o’r gloch.

Yno, mi fyddan nhw’n ymweld â phob stadiwm gan hel atgofion, mwynhau’r diwylliannau a chyfarfod arwyr rygbi rhyngwladol, gan gynnwys Gerald Davies, Martin Castrogiovanni a Will Carling.

Dros dair pennod, byddan nhw’n trafod hanesion o deithiau a fu, ac yn trafod ymgyrch nesaf y Chwe Gwlad.

“Roedd Ieuan jyst yn legend, ac mae fe dal yn legend,” meddai Shane Williams.

“Bob tro oedd Cymru’n sgori, fi’n credu mai ond Ieuan Evans oedd yn sgorio, a dyna beth fi’n cofio.

“So i fynd ar y daith yma gydag Ieuan, fi’n hapus iawn.

“Bydd e’n neis i fynd o amgylch Ewrop gydag un o’r chwaraewyr gorau sydd wedi bod yng Nghymru.”

“Cael pobol off eu penolau ac ar eu traed yn sgrechian am fwy a mwy – dyna beth oedd Shane yn gallu gwneud,” meddai Ieuan Evans wedyn.

“Dros y deng mlynedd oedd Shane yn chwarae dros Gymru, roedd chwaraewyr yn mynd yn fwy ac yn fwy o seis, ond fe ddangosodd Shane fod seis ddim yn mynd i stopio fe rhag disgleirio ar y llwyfan rhyngwladol a chodi i frig y gêm.

“Fi’n edrych mlaen i fynd nôl i’r llefydd fi di chwarae, a chael edrych a chofio nôl am y bobl oeddwn i’n chwarae yn eu herbyn, y ffrindiau ti’n creu a’r cofion cynnes sydd yn aros gyda thi – a’r poen hefyd wrth gwrs!”

‘Y stadiwm gorau yn y byd’

Cyn hedfan i Rufain, mae’r daith yn cychwyn yng Nghaerdydd, lle mae’r ddau yn rhannu straeon wrth iddyn nhw ail-fyw’r daith fws araf i ganol y ddinas.

“Yr agosaf ’dych chi i’r stadiwm, mae’r nerfs yn dechrau cicio mewn,” meddai Shane.

“Pa bynnag gêm yw e, os wyt ti’n chwarae i Gymru neu Amman United yn Division Three West, yr un teimlad yw e.

“Wedyn ti’n cyrraedd Caerdydd a gweld maint y stadiwm, a phobol ym mhob man – mae e fel zombie apocalypse!

“Maen nhw i gyd yna gyda’u crysau a’i daffodils ac yn barod i fynd.”

“Ni’n lwcus da fe, dyma’r lle gorau yn y byd i chwarae rygbi a’r lle gorau yn y byd i wylio rygbi. Mae’n wahanol, mae’n unigryw, mae’n sbesial,” meddai Ieuan Evans wedyn.

“O ydy. Y stadiwm gorau yn y byd.”