Mae’r penderfyniad ynghylch cynnal Eisteddfod yr Urdd ym Merthyr Tudful wedi cael ei ohirio am y tro.
Roedd disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Merthyr Tudful ddoe (dydd Mercher, Ionawr 5), a oedd yn argymell cynnal yr ŵyl ym Mharc Cyfarthfa yn y dref.
Daw hyn ar ôl cais gan yr Urdd i gynnal y digwyddiad ym Merthyr, gyda gofyniad i gasglu £2.1m i wneud hynny.
Mae’r adroddiad yn nodi bod yr Eisteddfod yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda thros 15,000 o blant a phobol ifanc dan 25 oed yn cystadlu.
Hefyd, mae’n nodi bod yr ŵyl yn cael ei darlledu ar lawer o gyfryngau, gan gynnwys 80 awr ar deledu gyda chyrhaeddiad o 487,000 o wylwyr dros yr wythnos, yn ogystal â 50 awr ar y radio.
Dywedodd maer y dref, y Cynghorydd Malcolm Colbran, wrth y cyngor y byddai’r adroddiad a’r cyflwyniad yn cael ei ohirio a’i ystyried yn y dyfodol oherwydd absenoldeb staff.
Adroddiad
Mae’r adroddiad yn nodi y byddai cynnal Eisteddfod yr Urdd 2025 yn cyfrannu at weledigaeth Strategaeth y Gymraeg y Cyngor, gyda’r Gymraeg yn cael “ei chlywed, ei siarad, a’i dathlu ymhob man, waeth beth yw cefndir unigolion”.
O ran buddion economaidd, mae’r adroddiad yn dweud y byddai’n “darparu cyfle unigryw pellach i arddangos asedau Merthyr Tudful a hybu proffil y rhanbarth”.
Byddai’r Eisteddfod hefyd yn dod â “niferoedd sylweddol uwch” o bobol i’r ardal na gwyliau eraill sydd wedi eu cynnal yno dros y blynyddoedd, gan ddod ag arian i’r economi leol.
Pe bai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, byddai gweithgor yn cael ei sefydlu rhwng yr Urdd a’r cyngor sir.
Mae gofyn neilltuo 25 erw o dir ar gyfer y Maes, 50 erw ar gyfer parcio, a 15 erw ar gyfer carafanau.
Byddai’r Cyngor yn cyfrannu £150,000 at yr ŵyl, sef 7% o’r cyfanswm sydd angen ei gasglu dros dair blynedd.
Dydy Eisteddfod yr Urdd heb gael ei chynnal yn y rhanbarth ers 1987, felly dyma fyddai’r digwyddiad mwyaf yn y Gymraeg ers hynny.