Bydd cynghorwyr ym Merthyr Tudful yn ystyried cymeradwyo cynlluniau i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2025 yn y dref.

Mae adroddiad i’r cyngor llawn ddydd Mercher, 5 Ionawr, yn argymell eu bod yn cymeradwyo cynnal Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Cyfarthfa.

Mae’n dilyn cais gan Urdd Gobaith Cymru i gynnal y digwyddiad gwerth £2.1m ym Merthyr.

Mae’r adroddiad yn nodi fod yr Eisteddfod yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y caiff ei darlledu ar amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys 80 awr ar y teledu gyda chyrhaeddiad o 487,000 o wylwyr dros yr wythnos, yn ogystal â 50 awr ar y radio.

Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ddiwethaf ym Merthyr Tudful yn 1987 a digwyddiad 2025, os caiff ei gymeradwyo, fyddai’r digwyddiad Cymraeg mwyaf yn ardal y fwrdeistref sirol ers hynny.

Dywedodd adroddiad y cyngor y byddai’n cyfrannu at weledigaeth Strategaeth Iaith Gymraeg y cyngor lle mae’r Gymraeg yn cael ei “chlywed, ei siarad a’i dathlu ym mhobman”.

Os caiff ei gymeradwyo, byddai gweithgor rhwng yr Urdd a’r cyngor yn cael ei sefydlu.

Yr hyn sydd ei angen

Byddai angen neuaddau ac ystafelloedd ysgol yn rhad ac am ddim ar gyfer ymarferion sioeau cynradd ac uwchradd a phwyllgorau canolog.

Byddai angen i athrawon a/neu staff fod ar gael i alluogi plant a phobl ifanc i fynychu ymarferion y sioe gynradd ac uwchradd.

Byddai angen adeilad addas ar gyfer y cynhyrchiad theatrig ieuenctid a byddai angen i’r cyngor ystyried cais i ganiatáu trefniant ar gyfer lleoliad sy’n addas i gynnal y cynhyrchiad theatrig ieuenctid am gyfanswm o saith diwrnod ar gyfer ymarferion a pherfformiadau.

Byddai angen o leiaf 25 erw ar gyfer y Maes, 50 erw ar gyfer parcio, a 15 erw ar gyfer carafannau hefyd.

Byddai datganiad o ddealltwriaeth yn cael ei lunio rhwng adran farchnata a chyfathrebu’r Urdd a’r cyngor.

Byddai angen i’r cyngor lunio cynllun rheoli traffig ar gyfer digwyddiad Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod ei hun, diystyru unrhyw gostau ychwanegol os oes angen gosod cynlluniau cau ffyrdd neu systemau traffig unffordd, a bod yn gyfrifol am unrhyw arwyddion ffyrdd newydd i gynorthwyo llif traffig a chyfeirio pawb yn ddiogel yn ystod yr wythnos.

Byddai hefyd yn ofynnol i’r Cyngor ddiystyru unrhyw ffioedd trwyddedau adloniant ac alcohol a ffioedd caniatâd cynllunio.

O ran manteision economaidd, dywedodd yr adroddiad fod y cyfle i Ferthyr Tudful gynnal Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tudful 2025 “yn gyfle unigryw pellach i arddangos asedau go iawn Merthyr Tudful a rhoi hwb i’n proffil rhanbarthol.”

Effaith bositif gwyliau llai

Denodd digwyddiad Man Engine, digwyddiad Prydeinig yn 2018 y cynhaliwyd rhan de Cymru ohono ym Mharc Cyfarthfa, oddeutu 5,000 o bobl.

Dywedodd yr adroddiad fod busnesau lleol wedi dweud bod mwy o fasnachu wedi deillio o’r digwyddiad hwn ac ychwanegodd y byddai Eisteddfod yr Urdd yn denu “niferoedd sylweddol uwch” na hyn i’r economi leol.

Dywedodd yr adroddiad fod yr economi leol wedi cael budd o ddigwyddiadau yng nghanol y dref, fel Merthyr Rising a Chilli Fest.

Dywedodd fod y digwyddiadau hyn wedi denu ymwelwyr yn lleol ac yn rhanbarthol i ganol y dref sydd, i bob pwrpas, wedi rhoi hwb i fasnach yn yr economi gan arwain at gynnydd ar wariant lleol.

Gyda llwyddiant Bike Park Wales yn arwain at 10 gwely a brecwast newydd, y gobaith yw y bydd Eisteddfod yr Urdd yn sbarduno “cyfoeth newydd o fusnesau newydd sy’n gysylltiedig â’r sector” gan leoli eu hunain i fod yn barod ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cost

Cost cynnal Eisteddfod yr Urdd yw £2.1 miliwn gyda chyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru a phartneriaethau nawdd masnachol wedi’u datblygu gan yr Urdd – gyda’r gweddill yn dod o ymdrechion codi arian mewnol yr Urdd.

Dywedodd yr adroddiad ei bod yn her flynyddol cynnal gŵyl deithiol sy’n cynnig y profiadau gorau i blant, pobl ifanc ac ymwelwyr.

Byddai’r cyngor yn talu cyfraniad ariannol o £150,000, sy’n cyfateb i 7% o’r holl gostau dros gyfnod o dair blynedd.