Mae’r cyflwynydd newyddion Huw Edwards wedi datgelu ei fod wedi bod yn dioddef â chyfnodau o iselder ers ugain mlynedd.
Mewn rhaglen ar S4C i ddathlu ei ben-blwydd, bydd Huw Edwards yn trafod ei brofiadau ag iselder, a’i ysfa i gario ymlaen a’i yrfa ar ôl troi’n drigain.
Dechreuodd yr iselder yn 2002, pan oedd yn cyflwyno’r newyddion chwech o gloch, ac ar y rhaglen bydd yn dweud fod y broblem wedi bod mor ddifrifol fel nad oedd eisiau mynd i’r gwaith ar un pwynt.
Bydd y rhaglen, Huw Edwards yn 60, yn ei ddilyn ar daith yn ôl o Lundain i Gymru gan ystyried y profiadau sydd wedi siapio’i fywyd, gan gynnwys trafod y berthynas “anodd” a’i dad.
“Ddim yn deall”
“Fel pawb sy’n dioddef ychydig o iselder, dydych chi ddim jyst yn cael un pwl, mae’n dueddol o ddod yn ôl ac ymlaen,” meddai Huw Edwards.
“I fi, ddechreuodd e tua 2002 dw i’n meddwl, gefais i ryw bwl bryd hynny, a dw i ddim cweit yn gwybod pam ddigwyddodd hynny chwaith, ond es i i lawr yn weddol sydyn, a doeddwn i ddim yn deall y peth.
“Doeddwn i ddim isie codi o’r gwely, doeddwn i ddim isie mynd i’r gwaith, doeddwn i ddim isie siarad ’da neb.
“Falle bod e i wneud efo’r ffaith mod i ddim yn gwbl hapus gyda’r gwaith ar y pryd, ond fydde hwnna ddim yn esbonio pa mor llethol oedd e.
“Cefais i ychydig bach o ofn achos doeddwn i ddim wedi profi hynny o’r blaen.
“A’r broblem yw, chi’n gorfod cynnal delwedd gyhoeddus. Roeddwn i’n mynd ymlaen ar yr awyr, ac ychydig funudau cyn chwech o gloch, roeddwn i’n llythrennol yn dweud wrth fy hunan ‘Dere ’mlaen, fyddi di’n iawn nawr, rhaid iti jyst gwneud e’.
“Fe leddfodd e. Cefais i ambell bwl, ddim cweit mor ddifrifol ar ôl hynny.”
Budd y bocsio
Mae Huw Edwards yn cael “rhyw fath o dawelwch meddwl” drwy focsio.
“Doeddwn i ddim wedi deall, erioed, fod yna gyswllt mor agos rhwng iechyd y corff ac iechyd meddwl. Mae’r ddau ohonyn nhw’n mynd gyda’i gilydd.
“Os yw’r corff yn dioddef, mae’r meddwl yn mynd i ddioddef. Mae’r ddau’n helpu ei gilydd, dyna fy mhrofiad i beth bynnag.”
Trosglwyddo treftadaeth
Yn y rhaglen, bydd Huw Edwards hefyd yn trafod magu plant yn Llundain a chadw’r cysylltiad â Chymru hefyd.
“Mewn byd delfrydol byddai pump o’r plant yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond dydyn ni ddim yn byw mewn byd delfrydol.
“A se fi wedi aros gartref am ddeunaw mlynedd, a pheidio gweithio, a bod yr unig riant gartref, falle byddai gobaith ’da fi.
“Ond nid felly buodd hi, a dyw fy ngwraig ddim yn siarad Cymraeg. Felly mater o fod yn ymarferol, oes yna ffordd i drosglwyddo ymwybyddiaeth o dreftadaeth a Chymreictod ac yn y blaen? Oes.”
- Huw Edwards yn 60 ar S4C, 29 Rhagfyr am 9yh.