Bydd £2m yn cael ei fuddsoddi’r flwyddyn gan S4C ac un o asiantaethau Llywodraeth Cymru er mwyn creu ffilmiau yn y Gymraeg.
Mae S4C a Chymru Greadigol wedi llofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (MoU) er mwyn cefnogi datblygiad sector sgrin “ddeinamig ac o safon fyd-eang” yng Nghymru, a bydden nhw’n buddsoddi hyd at £1m yr un y flwyddyn tuag at hynny.
Cafodd Cymru Greadigol ei sefydlu yn 2020 gyda’r bwriad o ehangu’r diwydiannau creadigol, a datblygu talentau a sgiliau newydd o fewn y sectorau.
Bydd y ddau bartner yn cydweithio i ddatblygu sector ddwyieithog, sy’n gynrychiadol, teg, a chynhwysol.
Mae gweledigaeth o sector gynaliadwy ac arloesol wrth wraidd y cydweithio rhwng S4C a Chymru Greadigol.
Mae’r Memorandwm yn cynrychioli’r camau cyntaf wrth ffurfioli partneriaeth bresennol rhwng Cymru Greadigol ac S4C, a’i fwriad yw adeiladu ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac S4C a nodi sut y bydd y ddwy ochr yn cydweithio’n strategol i sicrhau gwerth ychwanegol i’r sector sgrin Gymraeg.
Ers i Gymru Greadigol gael ei lansio ym mis Ionawr 2020, maen nhw wedi bod yn cydweithio ag S4C gan arwain at brosiectau megis drama newydd S4C Y Golau (The Light), sy’n cael ei ffilmio yng Nghymru ar y funud, ac a fydd yn cael ei darlledu’n fyd-eang o 2022.
“Cefnogaeth glir i dalent newydd”
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chymru Greadigol ers iddo lansio, ac mae’r MoU heddiw yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd yn y tymor hir i gefnogi’r sector deledu yng Nghymru wedi Covid ac i sicrhau ein bod yn targedu ein hadnoddau yn effeithiol, yn ychwanegu gwerth at fuddsoddiad ehangach a chanolbwyntio ar y meysydd sydd â’r angen a’r enillion mwyaf.
“Rwy’n arbennig o falch o’n hymrwymiad ar y cyd i ddatblygu dramâu a ffilmiau yn yr iaith Gymraeg.
“Rwyf am i S4C adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chreu casgliad o’r radd flaenaf o ffilmiau Cymraeg i’n cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
“Rydym yr un mor ymrwymedig i weithio gyda Chymru Greadigol i dyfu cynnwys dogfennol ffeithiol a chynnwys Cymraeg gan ddatblygu brand S4C Originals.
“Er mwyn llwyddo yn y nodau hyn, rhaid i gynnwys S4C fod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol, a’i greu gan weithlu a sector sy’n adlewyrchu Cymru heddiw.
“Dyna pam rydyn ni hefyd yn ymrwymo i roi cefnogaeth glir i dalent newydd, yn enwedig o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, i ymsefydlu yn y sector, gan ennill y sgiliau a’r hyfforddiant i lwyddo.”
“Sbarduno twf”
Ychwanegodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, Dawn Bowden: “Mae’r bartneriaeth hon gyda S4C yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol sy’n anelu at sbarduno twf ar draws y sector gyfan.
“Gan ddatblygu sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf, a gweithio tuag at arferion gwaith cynhwysol ein bwriad yw ehangu cefnogaeth a rhoi Cymru ar y blaen fel y lle i leoli cwmnïau a busnesau creadigol.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth i sicrhau y gall y sector sgrin Gymraeg gystadlu’n rhyngwladol.
“Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n parhau i ddatblygu i fod yn genedl greadigol sy’n arwain y byd -yn ogystal â sicrhau fod ein cynnwys yn adlewyrchu ein gwlad ar y sgrin, ac yn mynd â straeon lleol Cymru i weddill y byd.”