Robat Gruffudd sy’n cofio am ei gyfaill, y cyn-athro o Lŷn, Penri Jones, cyd-sylfaenydd Lol ac awdur Jabas, a fu farw ddydd Sul (19 Rhagfyr) yn 78 oed.
*
Rwy’n cofio am Penri fel dyn syniadau ac yn meddwl yn syth am yr holl beintiau (gwan) o Greenall Whitley y buon ni’n yfed yn y Menai Vaults ym Mangor Uchaf ar ddechrau’r chwedegau.
 Chymdeithas yr Iaith wedi eistedd ar draws Pont Trefechan, roedd yn gyfnod o freuddwydio a gweithredu.
Yn ogystal â rhoi’r byd yn ei le – a fflamio awdurdodau’r Coleg – roedden ni’n cynllunio’r rhifyn cyntaf o Lol.
Gweledigaeth Penri oedd creu cylchgrawn newydd, amharchus i bobl ifanc ac, yn yn ei sgil, wasg newydd o’r enw Y Lolfa.
Ces i’r fraint o droi’r freuddwyd honno yn ffaith ddwy flynedd wedyn.
Yn y cyfamser roedd Penri wedi symud i Bontypridd ac wedi dechrau cynhyrchu rhes o lyfrau poblogaidd gan gynnwys Dan Leuad Llŷn a Jabas, a dyfodd yn gyfres deledu lwyddiannus iawn i’r arddegau.
Dychwelodd i’w gynefin yn Llanbedrog pan gafodd swydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, lle’r oedd e mor boblogaidd fel athro ag fel awdur.
Ond wnaeth e ddim bodloni ar hynny.
Yn genedlaetholwr i’r carn, bu’n weithgar ar hyd ei oes dros achosion a mentrau Cymreig fel tafarn Sarn Mellteyrn.
Aeth hyd yn oed yn gynghorydd sir, cymaint yr oedd e’n poeni am y llifeiriant Seisnig a welai’n boddi ei hoff Ben Llŷn.
Roedd e hefyd yn bysgotwr, yn ffarmwr, yn flaenor, ac yn ganwr corawl.
Ond fel ysgogwr syniadau y bydda i’n cofio Penri.
Roedd ganddo feddwl annibynnol a threiddgar a byddai’n aml yn fy rhoi yn fy lle fel brodor Seisnigaidd o’r Uplands, Abertawe.
Wna i fyth anghofio’r dyddiau rhosynnog, ffurfiannol yna ym Mangor Uchaf ac yng ngeiriau’r bardd o Sais: “Gwynfyd oedd cael byw yn y wawr honno; a nef ei hun oedd bod yn ifanc.”
*
- Gallwch ddarllen teyrngedau gan Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor ac eraill i Penri Jones, isod.