Mae gwasanaeth digidol ar alw S4C Clic wedi cyrraedd carreg filltir wrth ddenu 250,000 o danysgrifwyr.

Ers datblygu system gofrestru ym mis Mai 2019, mae’r darlledwr wedi ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael ar-lein yn sylweddol, gan gynnig bocs sets o sawl cyfres sydd wedi ymddangos ar y sianel dros y blynyddoedd.

Hefyd, mae modd gwylio chwaraeon byw ar y gwasanaeth erbyn hyn, yn ogystal â chynnwys penodol i blant, pobol ifanc a dysgwyr.

Yn ôl S4C, mae datblygu’r gwasanaeth ymhellach wedi eu galluogi nhw i “ddeall anghenion gwylwyr yn well” a chynnig gwasanaeth “mwy cyflawn”.

‘Newyddion ffantastig’

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C ei fod yn “falch iawn” ar ôl croesi’r trothwy o chwarter miliwn o danysgrifwyr.

“Mae hyn yn newyddion ffantastig,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i ehangu’r hyn ry’n ni’n gynnig ar S4C Clic, wrth i fwy a fwy o bobl defnyddio’r gwasanaeth i wylio ein cynnwys.

“Mae datblygu presenoldeb digidol S4C wedi bod yn flaenoriaeth strategol mawr i ni dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r tyfiant aruthrol yn nilyniant S4C Clic wedi galluogi ni i ddod i adnabod ein cynulleidfaoedd hyd yn oed yn well a theilwra ein cynnwys gyda‘r gwylwyr ar flaenau ein cof.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i daro’r garreg filltir arbennig yma a gobeithio y gall brand Clic barhau i gryfhau ymhell i mewn i’r dyfodol.”