Mae Gareth yr epa ffraeth a ffriwti yn ôl ar y teledu heno gyda sioe sgwrsio o’r enw Gareth!

Fe ddaeth y cyflwynydd i’r amlwg ar wasanaeth Hansh S4C ar y We, a dod yn boblogaidd gyda’i arddull bowld o holi enwogion Cymru, a chaneuon bachog megis ‘Mŵfs fel Dafydd Iwan’.

Y llynedd roedd yr epa wedi creu ffilm i S4C o’r enw Anrheg Nadolig Gareth, ond eleni mae ganddo gyfres tair pennod sy’n cychwyn heno ac yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau gyda sêr megis Malcolm Allen, Non Eden ac Iestyn Garlick, a chaneuon gyda house band.

Yma mae’r epa o Gaernarfon sy’n caru chips yn sôn mwy am yr arlwy…

Beth fedri dweud wrthym am dy broject diweddara, Gareth!?

Mae’r gyfres newydd yn sioe siarad gyda lot o hwyl a sbri, adloniant i’r teulu oll.

Mae ‘na rhywbeth i bawb – orangutan bach ffyri yn eye candy i’r oedolion, band cŵl i’r hipsters, lliwiau llachar i’r babis, gwesteion diddorol i’r intellects yn ein plith, sketches i pobl sydd efo sense of humour, Iestyn Garlick – hefyd yn eye candy i’r oedolion – a cân newydd pob pennod gynno fi i’r plant. Dw i’n meddwl fydd hyd yn oed rhai pobl o de Cymru yn mwynhau.

Pwy fydd yn ymddangos gyda ti?

Ma’ genai ddau gwestai ar bob rhaglen, gormod i restru nhw gyd yn fama, ond dyma flas o’r gwesteion i chi; y cerddor hudolus Lily Beau, y lejand angerddol Malcolm Allen, y comedi genius Geraint Rhys Edwards, Bardd Plant Cymru Casi Wyn, yr awdures a pop-star Non Parry, a gŵr Non Parry; Iwan John. Dyna nhw i gyd actually.

O, a ma’r band super cool HMS Morris yn pob rhaglen fel house band fi. Ma nhw mewn gwisgoedd gwahanol yn bob rhaglen, felly os yda chi ddim yn mwynhau allwchi gwatchad ar mute a jesd sbio ar y costumes neis. Wedyn os allwchi Tweetio @S4C yn deud bo’ chi wedi joio rhaglen Gareth a peidio deud bo’ chi wedi gwatchad ar mute plis. Diolch. Hashtag Gareth.

Beth wyt ti wedi bod yn gwneud ers i Anrheg Nadolig Gareth gael ei ddarlledu?

Dros y flwyddyn yma dwi wedi bod yn hystlo, hasslo, cwffio, brathu a cicio i trio cael rhaglen ar y teledu. Dw i wedi sgwennu caneuon newydd, wedi bod yn brysur yn chwarae gemau ac adolygu nhw ar YouTube fi, dw i wedi neud ‘chydig o fideos cerddorol, wedi sgwennu miwsical am dewin ifanc sy’n mynd i ysgol i gwrachod ac yn ymladd boi drwg o’r enw Foldymort. Neshi neud Couch to 5K. Dw i di bod ar Priodas Pum Mil yn neud speech best man. Neshi fynd i Llyn Tegid yn Bala i bwydo bara i Gaz Top. Dyna fo rili. O – eshi i Cheshire Oaks efo Mam, ond neshi’m cael dim byd.

Pryd fydd Gareth ! ar y teledu?

 Ma Gareth! am fod ymlaen bob nos Wenar drwy mis Rhagfyr (am 3 wthnos). Felly 17 o Rhagfyr, 24 o Rhagfyr a 31 o Rhagfyr (dydi y rhagleni yma ddim byd i neud hefo Nadolig na Blwyddyn Newydd achos o’n i ddim yn gwbod tan ar ôl ffilmio bod o’n mynd allan Christmas Eve a New Year’s Eve). Mae’r cyfres ymlaen smack bang yn y (post watershed) prime-time slot – 10 o gloch y nos. (Dydi’r rhagleni ddim yn post-watershed o ran cynnwys achos o’n i ddim yn gwbod tan ar ôl ffilmio bod o’n mynd allan post-watershed). Ond siwr fydd nhw’n cael ei ail-ddarlledu am flynyddoedd i ddod. Rhatatch na neud mwy. Ond, mae 2022 am fod yn Flwyddyn Yr Orangutan. Gwyliwch y gofod.

Gareth! ar S4C heno, nos Wener, 17 Rhagfyr am ddeg