Bwriad promo Nadolig S4C eleni oedd adlewyrchu’r flwyddyn ddiwethaf drwy rai o anifeiliaid amlycaf Cymru a thu hwnt.

Mae’r animeiddiad yn cynnwys gwylanod Caroline Street yng Nghaerdydd, geifr y Gogarth ger Llandudno, Wally y Walrws a deithiodd o’r Arctig i Sir Benfor eleni, ac adar y pâl [puffins].

Y bwriad oedd eu bod nhw’n “cynrychioli” pobol, ac yn dal yr un emosiynau a sefyllfaoedd â chyfnod y Nadolig.

Mae cân hudol Dr Meredydd Evans o’r 1940au, ‘Santa Clôs’, yn gefndir i’r darn, ac yn “ychwanegu at y gwrthgyferbyniad rhwng y modern a’r hen” yn y cartŵn.

“Ddechreuon ni weithio ar yr ymgyrch ym mis Medi, a chreu promo i lansio hunaniaeth weledol S4C ar gyfer y Nadolig,” meddai Huw Derfel, Cynhyrchydd Promos S4C, wrth golwg360.

“Fy ngwaith i oedd mynd ati i feddwl am syniad, ac roedd hwnnw’n mynd i dendr i wahanol gwmnïau.”

Bryd hynny, eglura Huw Derfel, roedd y Sianel Gymraeg yn ystyried “ydyn ni’n mynd am rywbeth sy’n cael ei ffilmio, rhywbeth cerddorol, animeiddiad?”

“Ychydig o hiwmor”

Bu S4C yn cydweithio ar y cartŵn gyda chwmni Picl Animation.

“Maen nhw’n gwmni eithaf ifanc ac maen nhw’n Gymreig iawn eu naws. Roedd hwnna’n rhywbeth oedden ni’n hoffi’n fawr,” meddai Huw Derfel.

“Y prif reswm dw i’n meddwl y gwnaethon ni benderfynu gwneud animeiddiad oedd achos y cyfnod covid yma.

“Doedden ni ddim eisio dehongli teuluoedd yn dod at ei gilydd adeg Dolig, rhag ofn mai nad dyna fyddai’r sefyllfa.

“Felly, penderfynu cael yr anifeiliaid i gynrychioli’r bobol – dyna oedd y bwriad. Bod o dal yr un emosiynau a sefyllfaoedd, ond eu bod nhw’n cael eu cynrychioli gan anifeiliaid.”

Mi fuo’r Sianel Gymraeg yn trafod syniadau gyda chwmni JM Creative.

“Y peth cyntaf ddaeth i’n meddwl ni, oedd ein bod ni eisio gwneud rhywbeth oedd yn unigryw Gymreig, ac felly fe ddechreuon ni edrych ar y straeon sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a meddwl os ydyn ni’n mynd lawr y trywydd anifeiliaid – ‘Mae gennym ni’r geifr o’r Gogarth yn Llandudno’,” eglura Huw Derfel.

“Hefyd roedd gen ti Wally y Walrws yn Ninbych y Pysgod, ac roedden ni’n meddwl am gwpwl o bethau eraill, ac yn meddwl ‘be arall sy’n unigryw?’ Mae gen ti Ynys Sgomer efo adar y pâl.

“Roedden ni hefyd eisio gwneud yn siŵr bod yna ychydig o hiwmor, felly fe wnaethon ni fynd am wylanod chwareus ar Caroline Street yng Nghaerdydd.”

“Teimlad cynnes” llais Merêd

Gydag ymgyrch fel hon, mae’r gerddoriaeth yn “rhan allweddol”, meddai Huw Derfel, a JM Creative awgrymodd y tracsain.

Llais Dr Meredydd Evans yn canu ‘Santa Clôs’ sy’n gefndir i’r cartŵn.

Fe gafodd y gân ei recordio yn 1948 fel rhan o ddrama radio BBC Cymru, Santa Clôs a’r Tri Cabalero gan Islwyn Ffowc Elis, am Santa yn cael ei herwgipio gan fandits yn yr Ariannin.

“Pan glywson ni’r trac yma, roedd teimlad cynnes y llais a’r recordiad, bod ti’n clywed y crackle, roedd hwnna i gyd yn hyfryd iawn, ac yn ychwanegu at y gwrthgyferbyniad rhwng animeiddiad modern a sefyllfa fodern, a thrac oedd yn mynd â ti’n ôl mewn amser,” meddai Huw Derfel.

Mae’r melodi i’w chlywed dros holl lwyfannau’r sianel gyda threfniant newydd wedi ei chreu gan y cerddor Steffan Rhys Williams hefyd.

Mae hi’n sialens meddwl am syniadau newydd ar gyfer ffilm fach Nadoligaidd ei naws bob blwyddyn, meddai Huw Derfel

“Beth rydyn ni’n dueddol o wneud ydi peidio rhoi’r baich ar un person bob blwyddyn. Mae o’n waith tîm.

“Does yna ond hyn a hyn o ffyrdd rydych chi’n gallu gwerthu coeden Dolig, neu seren ar y goeden.

“Beth wnaethon ni benderfynu eleni oedd trio creu rhywbeth positif allan o sefyllfa sydd wedi bod yn anodd i lot fawr o bobol.”