Drigain mlynedd ers cyhoeddi Un Nos Ola Leuad, mae rhaglen arbennig ar S4C am edrych ar ddylanwad y nofel.

Bydd y rhaglen yn edrych ar weithiau sydd wedi deillio yn uniongyrchol o nofel Caradog Prichard, neu sydd wedi’u hysbrydoli ganddi.

Mae’r nofel yn llyfr gosod Lefel A ers dros ddeugain mlynedd, ac yn cael ei chydnabod gan lawer fel y nofel Gymraeg orau erioed.

Dri-deg mlynedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi cafodd ei throsi’n ffilm, ac mae opera newydd sbon wedi cael ei chyfansoddi’n seiliedig ar y gwaith eleni.

Ysbrydoliaeth

Fel y mae’n sôn yn y fideo isod, yn y chweched dosbarth oedd yr actor o Fethesda, John Ogwen, pan gafodd Un Nos Ola Leuad ei chyhoeddi – a dyna’r adeg pan ddaeth i gysylltiad ag un arall o feibion Bethesda, Caradog Prichard, am y tro cyntaf.

Fyth ers hynny, mae Un Nos Ola Leuad wedi parhau i fod yn destun ysbrydoliaeth iddo ef a’i gyd-actor, Maureen Rhys.

“Sgwennu fel ti’n siarad”

Caradog Prichard

Mae’r nofel yn dal i danio’r dychymyg, ac yn ystod Dylanwad Un Nos Ola Leuad, a fydd ar S4C am 9:05pm nos fory (18 Rhagfyr), bydd cerddorion, artistiaid, awduron, ac ysgolheigion yn trafod ei heffaith arnyn nhw.

Yn ôl Lisa Jên, sy’n dod o Fethesda ac yn canu gyda 9Bach, fe wnaeth y nofel sicrhau ei bod hi’n “ymhyfrydu mewn bod yn Gymraeg”.

“Yn dod o Fethesda, ti’n ymwybodol o’r llyfr beth bynnag ‘lly… Wedyn, jyst yn 16 oed, jyst bod yn obsessed efo’r llyfr mewn ffordd achos bod o’n dod â’r peth edgy yna i fewn i ysgrythur a sgwennu Cymraeg,” meddai Lisa Jên.

“A bo chdi’n cael sgwennu fel’a. Bod ti’n cael sgwennu fel ti’n siarad.

“I fi yn hogan eithaf bolshy 16 oed, [dyna] o’n i angen er mwyn ’neud yn siŵr bod fi’n mynd ymlaen i addysg uwch ac yn ymhyfrydu yn bod yn Gymraeg mewn ffordd – achos nath hwnna roi y leisans i fi mewn ffordd – dw i’n cal bod fel’a a bod yn Gymraeg.

The rest is history, mewn ffordd, o ran be dw i’n neud efo 9Bach a bob dim.”

Mae dylanwad Un Nos Ola Leuad yn amlwg ar rai o ganeuon 9Bach, gan gynnwys ‘Llyn Du’ sy’n cynnwys cyfeiriad tuag at Frenhines y Llyn Du, un o leisiau’r nofel.

“Wmff i mi”

Enillodd cyfrol farddoniaeth gyntaf Caryl Bryn wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020, ac mae ei theitl Hwn ydy’r llais, tybad? yn ddyfyniad o Un Nos Ola Leuad.

Ond yn ôl Caryl Bryn, mae’r nofel wedi dylanwadu arni mewn “ffordd dda a ffordd ddrwg”.

Caryl Bryn, ei chyfrol a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

“Geshi gyfnod lle eshi’n hollol, hollol obsessed efo’i, ‘lly – lle o’n i’n perthnasu efo gymaint o’r cymeriadau yma, yn enwedig Em [Brawd Mawr Now Bach Glo] a’r adroddwr,” meddai Caryl Bryn.

“I’r pwynt lle o’n i’n teimlo fatha unigolyn ar goll mewn cymdeithas, nes bo’ fi’n drysu, ‘de. Ac o’n i’n darllen hi drosodd a drosodd a drosodd ’mond er mwyn cael y cysur yna.

“Ond eto wedyn, nofel ydy hi. Ac er bo’ fi yn perthnasu gymaint efo hi, mae’n rhoi ryw wmff i mi sefyll yn erbyn cymdeithas fel’a.

“Dw i’n sgwennu ar yr un thema. Bob tro, mae ’na jest ’chydig o lais Caradog yn dod mewn i’ ngwaith i.”

Mae’r nofel wedi dylanwadu ar datŵs Caryl Bryn hefyd.

“Mae gen i hefyd glawr y nofel – mae hi’n mynd dros y ddwy fraich… Ac wedyn mae gen i’r darlun mawr o Em ar fy nghoes. Hwnna ydy’r show-stopper.

“Am bod fi’n licio darlun Ruth Jên [o Em], mae’r tatŵ yn datŵ mawr iawn.”

Bydd artistiaid ac awduron eraill, gan gynnwys Iwan Bala, Ruth Jên, sydd wedi gwneud y darluniadau ar gyfer un o argraffiadau’r nofel, Menna Baines, awdur astudiaeth Yng Ngolau’r Lleuad, a’r awdur Jon Gower, sy’n dweud bod Caradog Prichard “yn rhyw fath o dad neu’n dad-cu ar lot fawr ohono ni”, ar y rhaglen hefyd.

Bydd ffilm Un Nos Ola Leuad (1991) yn cael ei dangos ar S4C nos fory hefyd.

  • Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar S4C am 9:05 nos Sadwrn, 18 Rhagfyr, ac Un Nos Ola Leuad (1991) ar ei hôl am 10:10yh.

Un Nos Ola Leuad dan oleuadau’r opera

Cadi Dafydd

Mae cwmni Opra Cymru o Flaenau Ffestiniog wedi bod wrthi’n datblygu opera Un Nos Ola Leuad