Bydd cyfres o weithdai perfformio a chelfyddydol i bobol â nam ar eu golwg yn cael ei sefydlu er mwyn helpu i ddatblygu hyder.

Mae elusen UCAN Productions, rhwydwaith berfformio a chelfyddydol ar gyfer plant a phobol ifanc ddall neu rannol ddall yng Nghaerdydd, wedi derbyn £165,000 i sefydlu rhwydwaith cymorth.

Bydd o leiaf 50 o bobol yn elwa o’r gweithdai, a fydd yn cael eu harwain gan staff a gwirfoddolwyr sydd â nam ar eu golwg.

Y nod yw datblygu hyder corfforol a lleisiol y rhai fydd yn cymryd rhan, a bydd gweithdai a gweithgareddau ar bynciau megis creu a rhedeg podlediadau, cyfarfodydd drama, clwb ffilm a llyfrau, a hyrwyddo hunan-eiriolaeth.

Mae’r arian wedi cael ei roi dan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac mae’n un o 60 o brosiectau sydd wedi derbyn arian gan y Loteri yn ystod y mis diwethaf.

“Pob math o gyfleoedd”

Mae Hannah Matthews wedi bod yn aelod o UCAN ers roedd hi’n ddeg mlwydd oed, a bydd hi’n gweithio ar y prosiect newydd fel swyddog cefnogi.

Mae UCAN Productions wedi fy nghefnogi ers i mi fod yn 10 mlwydd oed drwy roi pob math o gyfleoedd i mi a mwy a mwy o ffrindiau sydd, fel fi, i gyd â nam ar y golwg,” meddai.

“Ar ôl bod yn rhan o ddatblygu prosiect Rhwydwaith UCAN, sydd ar gyfer pobl ifanc ddall a rhannol ddall dros 18 mlwydd oed yng Nghymru, ni allaf aros i helpu eraill i roi cynnig ar bethau newydd, dysgu sgiliau newydd ac yn bwysicaf oll gwneud ffrindiau newydd.

“Gwahaniaeth hanfodol”

Bydd y grant yn caniatáu i’r sefydliad adeiladu ar brosiect blaenorol ganddyn nhw i gefnogi pobol â nam ar eu golwg i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, lleihau unigedd, a chyflwyno gweithdai meithrin hyder.

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri, fod eu gwaith “yn enghraifft glir o’n cred bod cymunedau’n ffynnu pan fydd pobol yn arwain”.

“Mae dros £30 miliwn yr wythnos yn cael ei godi ar gyfer achosion da ledled y Deyrnas Unedig diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol,” meddai John Rose.

“Rydym yn falch iawn o ariannu gwaith anhygoel UCAN a gwyddom o brosiectau blaenorol eu bod yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i bobl ifanc â nam ar eu golwg.”