Mae teyrngedau wedi cael eu talu gan y byd celf i’r artist o Abergwaun, Eirian Short, a fu farw yn 97 oed.

Roedd hi’n enw adnabyddus yn y byd tecstilau, ac roedd hi wedi darlithio a chydweithio gyda sawl artist ledled Prydain.

Cafodd Eirian ei geni yn Abergwaun yn 1924, ac roedd hi’n byw yn Sir Benfro pan fu farw.

Yn ifanc, fe ymunodd hi â’r Auxiliary Territorial Service yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel mecanydd offer ar gyfer gynnau.

Yn dilyn hynny, cafodd hi ei hysbrydoli i ddilyn cwrs cerflunio a brodwaith yng Ngholeg Goldsmith yn Llundain, ac ar ôl graddio, daeth hi yn ddarlithydd yn y coleg, a nifer o golegau eraill o amgylch Llundain.

Pan oedd Eirian Short yn fyfyriwr yn Goldsmiths yn y pumdegau, roedd hi’n adnabod y cynllunydd dillad enwog Mary Quant ac yn ffrindiau mawr gyda’r artist arloesol Bridget Riley.

Fe adawodd hi ei swydd yng Ngholeg Celf Hornsey yn 1968, ar ôl iddi gefnogi myfyrwyr a oedd yn mynnu newidiadau i’r cwricwlwm.

‘Rhosys’ gan Eirian Short

Fe briododd hi’r artist arall, Denys Short, yn 1951, ac ar ôl ymddeol ym 1985, fe symudodd y ddau yn ôl i ardal Abergwaun i bentref Dinas.

Roedd Eirian wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am amryw o dechnegau celf, gan gynnwys gwaith nodwydd.

Fe gynhaliodd nifer o arddangosfeydd celf hefyd, gan gynnwys yn Oriel Ysgol Casmael, ger Hwlffordd.

Mae hi hefyd wedi cyfrannu at nifer o arteffactau lleol, gan gynnwys Tapestri’r Goresgyniad Olaf, sy’n cael ei arddangos yn Abergwaun.

‘Artist ym mhob ystyr o’r gair’

Dywedodd Gaynor McMorrin o Gymdeithas Gelfyddydau Abergwaun, lle bu Eirian yn aelod, ei bod hi’n “artist ym mhob ystyr o’r gair.”

“Roedd hi’n ddrafftwraig fedrus a oedd yn defnyddio’i sgiliau yn ei gwaith tecstiliau chwilfrydig,” meddai wrth y Western Telegraph.

“Roedd ei chefnogaeth i’r celfyddydau, yn lleol a’n genedlaethol, a’r gymdeithas yn ddiderfyn, ac roedd hi wastad yn cynnig ei gwaith syfrdanol yn ein arddangosfeydd.”