Mae disgwyl i Gymru serennu ar y sgrîn unwaith eto yn ystod 2022, a hynny ar ôl blwyddyn gynhyrchiol eleni er gwaethaf Covid-19.

Eleni, cafodd mwy na 24 o gynyrchiadau eu ffilmio ledled Cymru rhwng mis Mai a mis Hydref a fydd yn cael eu darlledu y flwyddyn nesaf.

Dros gyfnod y Nadolig, roedd cyfle i wylio tair pennod arbennig o Doctor Who gan Russell T Davies o Abertawe, wrth i gyfnod Jodie Whitaker yn chwarae’r prif gymeriad ddod i ben.

Ac fe fydd yr awdur yn dychwelyd eto wrth i’r rhaglen ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed yn 2023, gyda BBC Studios yn cydweithio â chwmni Bad Wolf i gynhyrchu’r gyfres arbennig.

Bydd A Discovery of Witches i’w gweld ar Sky Max a NOW ar Ionawr 7, a honno wedi’i chynhyrchu gan Bad Wolf gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Fe fu Gymru’n lleoliad ffilmio nifer o gyfresi a ffilmiau mawr dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys Havoc ar Netflix yn serennu Tom Hardy a Forest Whitaker, His Dark Materials ar gyfer BBC/HBO a chynhyrchiad newydd sbon gan Lucasfilm yn ailgreu’r ffilm glasurol Willow ar Disney+.

Cafodd yr holl gynyrchiadau hyn gymorth Cymru Greadigol, sydd hefyd wedi cefnogi cynyrchiadau cenedlaethol gan gynnwys y ffilm The Almond and Seahorse (Mad as Birds) sy’n serennu Rebel Wilson, a chyfres chwe phennod, The Light / Y Golau yn serennu Joanna Scanlan, Alexandra Roach ac Iwan Rheon ac wedi’i chyd-gynhyrchu gan Duchess Street Productions a Triongl mewn cydweithrediad ag APC Studios.

Mae Sgrîn Cymru hefyd wedi cynorthwyo gyda dwy gyfres newydd ar Channel 4 y mae disgwyl iddyn nhw ymddangos ar y sgrîn yn 2022, sef The Birth Of Daniel F Harris (Clerkenwell Films) a The Undeclared War (Playground Entertainment) yn serennu Mark Rylance a Simon Pegg, ynghyd â ffilm nodwedd newydd, Lady Chatterley’s Lover a gafodd ei ffilmio’n rhannol yn y gogledd.

Mae Cymru Greadigol hefyd yn parhau i gefnogi cynyrchiadau annibynnol yng Nghymru, gydag Avanti’n creu The Perfect Pitch i Channel 4, a Cwmni Da yn creu Rain Stories, fydd yn ymddangos y flwyddyn nesaf.

Galw di-gynsail am sgiliau arbenigol

Mae’r cynnydd hwn mewn cynyrchiadau wedi gweld galw di-gynsail am weithwyr â sgiliau arbenigol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn cydweithio â’r diwydiant i fynd i’r afael â phrinder sgiliau, gan sicrhau bod gan y gweithwyr sydd yn eu lle y sgiliau angenrheidiol i wneud eu gwaith ac i barhau i gynhyrchu cyfresi a ffilmiau o’r radd flaenaf yma yng Nghymru ac i gwmnïau sy’n dymuno ffilmio yn y wlad.

Mae arian Cymru Greadigol yn sicrhau bod yna ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i hyfforddi trwy leoliadau gwaith, ac mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi cael y cyfle i gydweithio â nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Roedd cael blwyddyn gynhyrchiol yng nghanol pandemig – pan oedd galw enfawr am gynnwys newydd – wedi cyflwyno heriau a chyfloedd,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld Cymru’n cael ei harddangos yn amlwg ar ein sgriniau y flwyddyn nesaf mewn rhai cynyrchiadau mawr.

“Bydd hyn yn rhoi enw gwell fyth i ni’n fyd-eang fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, gyda’r criw, y sgiliau, y gofod stiwdio a’r lleoliadau a all wasanaethu pob math o gynyrchiadau.”